MANYLION
  • Lleoliad: Pwllheli,
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £23,792 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 09 Mai, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cymhorthydd Cefnogi Ysgol (Tymor Ysgol)

Cyngor Gwynedd

Cyflog: £23,792 y flwyddyn

Manylion
Hysbyseb Swydd

Swydd ydi hon yn y Ganolfan Fusnes Addysg, sef gwasanaeth o fewn Adran Addysg Cyngor Gwynedd.

Mae hwn yn gyfle da i ymuno â thîm o weinyddwyr eraill sydd yn cefnogi ysgolion cynradd Gwynedd.

Mae'r rôl yn cynnig profiadau gwaith amrywiol ac yn gyfle da i ddatblygu eich hun yn y maes gweinyddu.

Byddai'r ymgeisydd llwyddiannus yn gyfrifol am ddarparu cefnogaeth weinyddol i nifer penodol o ysgolion cynradd yng Ngwynedd.

Mae'r Ganolfan Fusnes Addysg wedi ei leoli yn swyddfeydd y Cyngor ym Mhwllheli.

Yn dilyn cyfnod o oddeutu 6 wythnos o hyfforddiant mewn swydd a fyddai'n cymryd lle yn y swyddfa ym Mhwllheli, mi fyddai yn bosibl i'r ymgeisydd llwyddiannus wedyn weithio trefn hybrid sef cymysgedd o weithio gartref yn ogystal â gweithio yn y swyddfa ym Mhwllheli.

Rydym yn hyblyg iawn o ran y gymhareb gweithio gartref i weithio yn y swyddfa, ond yn disgwyl bod staff yn gweithio o leiaf dau ddiwrnod pob wythnos yn y swyddfa yn ystod tymor ysgol.

Rydym yn cynnig cynllun gweithio yn ystwyth lle mae'n bosibl cronni oriau ystwyth a'i gyfnewid am amser ffwrdd o'r gwaith.

Tymor ysgol yw'r swydd (41 wythnos) gyda'r angen i weithio hyd at 10 diwrnod mewn blwyddyn yn ystod gwyliau'r ysgol.

Mae gan Cyngor Gwynedd becyn cyflogaeth deniadol, am ragor o wybodaeth cliciwch ar y Pecyn Gwybodaeth

Mae Cyngor Gwynedd yn gweithredu'n fewnol trwy gyfrwng y Gymraeg ac yn cynnig ei holl wasanaethau yn ddwyieithog. Bydd angen i'r ymgeisydd gyrraedd y lefel ieithyddol sy'n cael ei nodi fel un o'r sgiliau hanfodol yn y Manylion Person.

Rydym yn annog pob ymgeisydd am swydd gyda'r Cyngor i gyflwyno ceisiadau yn Gymraeg neu yn ddwyieithog.

(Bydd ceisiadau sydd yn cael eu cyflwyno yn uniaith Gymraeg neu Saesneg yn cael eu trin yn gwbl gyfartal, ond gofynnir i'r ymgeisydd ystyried yn ofalus beth yw gofynion iaith y swydd a'r sefydliad ac a fyddai cyflwyno cais yn uniaith Gymraeg yn fwy addas.)

Am sgwrs anffurfiol gellir cysylltu â Eirian Wrench ar 01758 704114

Ffurflenni cais a manylion pellach gan Gwasanaeth Cefnogol, Cyngor Gwynedd, Swyddfa'r Cyngor, Stryd y Jêl, Caernarfon, LL55 1SH

Ffôn: 01286 679076

E-Bost: swyddi@gwynedd.llyw.cymru

DYDDIAD CAU: 09/05/2025

Os yn llwyddiannus i fod ar y rhestr fer am gyfweliad, byddwn yn cysylltu a chwi drwy'r cyfeiriad E-BOST a gofnodwyd gennych ar eich ffurflen gais. Mae angen i chwi sicrhau eich bod yn gwirio eich E-BOST yn rheolaidd.

Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Bod yn aelod o dîm a'r gallu i gydweithio'n dda.

Bod yn barod i fod yn hyblyg i gyflenwi pan fo angen o fewn y tîm

Ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc.
Dymunol
Cyfathrebu effeithiol, arddangos blaengaredd (gweld gwaith)
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Profiad o weithio neu gymhwyster cydnabyddedig mewn un o'r meysydd isod:

Gweinyddiaeth/Technoleg Gwybodaeth/Busnes/Cyllidol
Dymunol
Cyfwerth a NVQ3 mewn gweinyddu neu gymhwyster perthnasol arall.

Cymwysterau TG perthnasol i'r swydd.
Profiad perthnasolHanfodol
Wedi cyflawni gwaith gweinyddol yn y gorffennol

Profiad o fod wedi cydweithio fel rhan o dîm
Dymunol
Ymwybyddiaeth eang o waith yr Adran Addysg ac Ysgolion

Profiad o waith cyllidol
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu da ar lafar ac yn ysgrifenedig

Cyfarwydd â meddalwedd Microsoft Office 2016.
Dymunol
Profiad o weithio ar systemau SIMS a FMS

Ymwybyddiaeth o ddefnydd o'r we.
Anghenion ieithyddolGwrando a Siarad - Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)

Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.

• Cefnogi rheolaeth effeithiol ysgolion cynradd Gwynedd drwy sicrhau gwasanaeth gweinyddol a chyllid o ansawdd.

• Mae'r Awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• Gliniadur ac offer cyfathrebu.
Prif ddyletswyddau
• Prif bwrpas y swydd ydi sicrhau gwasanaeth gweinyddol a chyllid o ansawdd i glwstwr o ysgolion cynradd Gwynedd.

• Darparu cefnogaeth weinyddol o'r radd flaenaf i'r ysgolion yn unol â'r Cytundeb Lefel Gwasanaeth a'r gwasanethau mae'r ysgolion wedi buddsoddi ynddo. Bydd y Cymhorthydd yn cyfrannu'n bositif at ethos/gwaith ac amcanion cyffredinol yr ysgolion a'r Ganolfan Fusnes Addysg.

• Bydd y Cymhorthydd yn gyfrifol am weithio'n annibynnol gan ddangos blaengaredd a chreadigrwydd wrth ymdrin â phob agwedd o'r swydd. Dylid cynllunio a blaenoriaethu gwaith yn ddyddiol er mwyn cyflawni amserlenni tynn wrth dalu sylw at fanylder a chywirdeb wrth gyflawni'r tasgau canlynol:

Cyllid:

• Prosesu archebion ac anfonebau'r ysgolion gan sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau ariannol

• y Cyngor.

• Cymryd rhan arweiniol mewn cynllunio, monitro a gwerthuso cyllideb gan gynnwys cysoni gwariant, diweddaru gwybodaeth y gyllideb a pharatoi adroddiadau cyllido fel bo'r angen.

• Agor a chau blwyddyn gyllidol.

• Derbyn sieciau ac anfonebau gan Gronfeydd ysgolion a'u prosesu.

Defnyddio rhaglen SIMS.net i:

• Paratoi strwythur bugeiliol dosbarthiadau;

• Mewnbynnu gwybodaeth disgyblion; Baratoi Cyfrifiad Blynyddol Ysgolion a'r Cyfrifiad Presenoldeb; Derbyn a throsglwyddo ffeiliau electroneg (CTF); Cynhyrchu Adroddiad CBGY (Cyfrifiad Blynyddol Gweithlu Ysgolion); Gweinyddu'r cyfrifiad PLASC blynyddol (Pupil Level Annual School Census); Paratoi a Gweinyddu prosesau asesu sylfaen ac asesiadau disgyblion CA1/CA2; Cynhyrchu adroddiadau blynyddol disgyblion; Mewnbynnu gwybodaeth personél/staffio; Cynhyrchu adroddiadau llefrith yn fisol ar gyfer yr ysgolion; Cynhrychu adroddiadau cinio yn fisol ar gyfer y Gwasanaeth Ategol.

System Schoolcomms

•r broses o dalu am ginio ysgol yn nôl yr angen; Gosod a derbyn taliadau ar-lein, cynorthwyo rhieni gyda gwneud taliadau a goruchwylio

• taliadau sydd cael eu gwneud ar-lein yn nôl yr angen.

Athrawon Llanw

• Trefnu athrawon llanw ar fyr rybudd i gyflenwi yn ystod absenoldeb athrawon yr ysgol.

Llywodraethwyr

• Coladu cofnodion, aelodaeth, adroddiadau y Pennaeth, adroddiad blynyddol a llawlyfr ysgol yn amserol ar y cyd gyda Chlerc Llywodraethwyr neu Glerc Ysgol.

• Paratoi dogfennaeth ar gyfer enwebu ac ethol Corff Llywodraethu'r ysgol.

System Ateb Galwadau Ffôn Ysgolion a Galwadau Ffôn Swyddogion

• Derbyn galwadau ffôn yn broffesiynol a gofalu ei throsglwyddo i sylw'r ysgol gan ddilyn trefn gytunedig.

• Delio gyda'r system llaisbost.

• Delio a galwadau ffôn Swyddogion y Gwasanaeth Ysgolion, cynorthwyo mewn unrhyw argyfwng, cofnodi a throsglwyddo negeseuon.

Amlenni Tâl Parod

• Prosesu archebion amlenni tâl parod ar gyfer ysgolion.

Eraill

• Cynorthwyo'r Arweinydd a'r Is-Arweinydd i arwain a hyfforddi Cymorthyddion Cefnogi Ysgol newydd.

• Cefnogi staff gweinyddol ysgolion eraill er mwyn gwella eu systemau a'r gefnogaeth a roddir i'r

• Pennaeth.

• Ymateb i ymholiadau a datrys problemau cyffredinol ar ran y Penaethiaid.

• Gwirio ffurflenni DBS staff ysgolion, gwirio a chofnodi manylion eu tystiolaeth gan sicrhau fod

• y ddogfennaeth yn ddilys a chyfredol yn nôl yr angen.

• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad

• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.

• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.

• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data

• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.

• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.

• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• -

  • Ceisio ar lein - Sut?
  • Rhestr Swyddi