MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 6 | £30,559 - £33,366 Pro Rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Mehefin , 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 6 | £30,559 - £33,366 Pro Rata
Diolch am ddangos diddordeb yn swydd Arweinydd Bugeiliol yn Ysgol Abersychan. Mae hon yn swydd bwysig yn ein hysgol. Y prif gyfrifoldebau fydd cefnogi grwp blwyddyn mewn perthynas ag anghenion bugeiliol o ddydd i ddydd, lles, diogelu, ymddygiad a phresenoldeb myfyrwyr. Byddwch yn rhan o dîm o bump o bobl, gan gynnwys dau Arweinydd Tîm Bugeiliol. Bydd y gr&slshquot;{p hwn yn gweithio'n agos gyda'r tîm lles ehangach, dan arweiniad y Dirprwy Bennaeth Cynhwysiant a'r Pennaeth Cynorthwyol Llesiant. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn chwarae rôl hanfodol wrth godi safonau o fewn yr ysgol trwy fod yn rhagweithiol, brwdfrydig, trefnus a mynd ati mewn ffordd gadarnhaol i groesawu gweithio gyda myfyrwyr mewn llawer o wahanol gyd-destunau.Mae Ysgol Abersychan yn ysgol uwchradd 11-16 oed sy'n diwallu anghenion plant o bob gallu. Rydyn ni eisiau i bob unigolyn gyflawni eu potensial. Rydyn ni'n ysgol sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod ein holl bobl ifanc yn hapus, yn llwyddiannus ac yn barod ar gyfer eu bywydau y tu hwnt i'r ysgol. Mae ein disgwyliadau a'n safonau yn uchel. Mae gennym staff ymroddgar a gofalgar sydd wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cyflawni'r gorau sydd o fewn eu gallu personol. Ar hyn o bryd mae gan yr ysgol 743 o fyfyrwyr, 48 o athrawon a 46 aelod o staff cymorth. Mae'r ysgol yn gwasanaethu ardal o anfantais economaidd-gymdeithasol ac mae gan 32% o fyfyrwyr hawl i brydau ysgol am ddim.
Cyflawnir nodau'r ysgol trwy system fugeiliol gref, ymrwymiad i ddarparu profiadau dysgu o ansawdd uchel ac ystod eang o weithgareddau chwaraeon, diwylliannol, cerddorol ac allgyrsiol. Mae myfyrwyr yn hapus, yn gweithio'n galed ac yn gadarnhaol am yr ysgol. Maen nhw'n ased go iawn i'n cymuned ac yn hynod gyfeillgar. Mae gennym rieni a llywodraethwyr gwych sy'n gefnogol iawn ac yn ein helpu i sicrhau bod pob myfyriwr yn cael yr addysg orau bosibl. Mae'r ysgol wedi cael canmoliaeth eang am wneud gwelliannau sylweddol i reolaeth ymddygiad ac mae ein ffocws ar sicrhau'r safonau uchaf trwy ddarpariaeth ragorol.
Rydyn ni'n chwilio am unigolyn eithriadol sydd â'r egni, yr ysgogiad, y gwydnwch a'r ymrwymiad i ymuno â ni ar yr adeg dyngedfennol hon yn ein taith i wella'r ysgol. Os ydych chi'n gyffrous wrth feddwl am y posibilrwydd o chwarae rhan bwysig wrth wireddu uchelgeisiau'r ysgol, os oes gennych gred ddi-baid y gall pob myfyriwr gyflawni, waeth beth yw ei gefndir a'i allu, yna byddem wrth ein bodd i glywed gennych! Yn gyfnewid, rwy'n gwarantu'n bersonol y cewch y gefnogaeth orau bosibl.
Peidiwch ag oedi rhag cysylltu â'r Dirprwy Bennaeth os hoffech ragor o wybodaeth am y rôl hon neu i drefnu ymweld â'r ysgol. Rhaid llenwi'r ffurflen gais trwy blatfform yr Awdurdod Lleol sydd wedi'i chysylltu â'r hysbyseb swydd ar eteach.
Dyddiad Cau: 11.59pm Dydd Iau 5 Mehefin
Cyfweliad: w/c Dydd Llun 9 Mehefin
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais - canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen.
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'n Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.