MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Grade 1 | £12.60 per hour
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 1 | £12.60 per hour
Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais $ú canllaw i ymgeiswyr | Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .Mae Ysgol Gorllewin Mynwy yn ysgol lwyddiannus i blant 11 - 16 oed. Rydym am benodi unigolyn trefnus, brwdfrydig a llawn cymhelliant i ymuno â thîm glanhau mewnol yr ysgol. Byddwch yn gyfrifol am lanhau ardal benodol yn yr ysgol i sicrhau bod y safon uchaf o hylendid a glendid yn cael ei gyflawni bob amser wrth gynnal yr holl ofynion iechyd a diogelwch. Bydd angen i chi fod yn hyblyg i fynychu yn achlysurol o ddydd Llun i ddydd Gwener rhwng 3.30pm a 6.30pm pan fydd angen.
Bydd gofyn i chi gydymffurfio â'r holl systemau a gweithdrefnau a bennir gan y Goruchwylydd Cadw Ty, a sicrhau bod yr holl offer glanhau yn cael ei ddefnyddio'n gywir ac yn ddiogel bob amser.
Am drafodaeth anffurfiol am y swydd wag hon, cysylltwch â Mandy James, Goruchwylydd Cadw Ty ar 01495 767430
Mae Sgiliau Iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon ond nid yn hanfodol.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn Ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn y Gymraeg neu'r Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Cau: Dydd Gwener 25 Ebrill, 2025 am 23.59 pm.