MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Grade 12
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Grade 12
RHEOLWR BUSNESS YSGOLDisgrifiad Swydd
YSGOL GYFUN RHYDYWAUN
LAWRENCE AVE
PENYWAUN
ABERDARE
RCT
CF44 9ES
RHEOLWR BUSNES YSGOL
Gradd 12 (£44,711.00)
37.00 awr yr wythnos
Rheolwr Busnes:
Dymuniad Corff Llywodraethol Ysgol Gyfun Gymraeg Rhydywaun yw penodi Rheolwr Busnes ymroddedig a chymwys i ymgymryd â swydd llawn amser yn yr ysgol.
Gwahoddir ceisiadau gan unigolion â chymwysterau a phrofiad i ymuno â'n tîm staff ymroddgar a llwyddiannus iawn.
Disgwylir i'r ymgeisydd fod yn angerddol dros y rôl ac yn barod i gyfrannu at ethos a gweledigaeth ysgol sy’n uchelgeisiol.
Mae'r Rheolwr Busnes yn adrodd yn uniongyrchol i'r UDA a bydd yn gyfrifol o dan broses gytøn o reoli llinell am redeg cyllid a safle’r ysgol yn effeithiol ac at ansawdd uchel. Bydd yn cefnogi a rheoli creu amgylchedd gwaith a dysgu rhagorol, trefnus iawn y gall holl gymuned yr ysgol ei rannu.
Disgwylir i ddeiliad y swydd ddangos sgiliau meddwl strategol a'r gallu i osod cyfeiriad yn briodol i'r swydd hon. Gweler y Disgrifiad Swydd am drosolwg manylach o'r dyletswyddau a'r cyfrifoldebau .
Ysgol hapus a llwyddiannus a sefydlwyd ym 1995 yw hon sy’n darparu addysg cyfrwng Cymraeg i ieuenctid ardal Merthyr Tudful a Chwm Cynon. Fe'i lleolir ar gyrion tref Aberdâr ar gampws gwych a godwyd yn arbennig ar ei chyfer. Mae gwaith ehangu ar y safle wedi cwblhau gyda chae 3G, neuadd chwaraeon a bloc ystafelloedd dysgu newydd hefyd. Mae dros 1000 o ddisgyblion yn yr ysgol erbyn hyn a rhagwelir y bydd twf graddol yn yr ysgol dros y blynyddoedd nesaf. Gyda natur ddeinamig a datblygol yr ysgol, ceir ystod o gyfleoedd datblygu sgiliau, a chymwysterau wrth symud ymlaen.
Gellir cael manylion pellach trwy gysylltu yn uniongyrchol â'r ysgol. Os ydych am sgwrs anffurfiol neu i drefnu ymweld â’r ysgol, cysylltwch â’r Brifathrawes – Miss Lisa Williams trwy e-bost. lisawilliams@rhydywaun.org