MANYLION.
  • Lleoliad: Heb ei ddarparu
  • Pwnc: Heb ei ddarparu
  • Oriau: Llawn amser
  • Cytundeb: Heb ei ddarparu
  • Math o gyflog: Per annum
  • Cyflog: Grade 5 | £29,064 - £32,061 PRO RATA
  • Iaith: Unrhyw
  • Dyddiad Cau: 01 Medi, 2026 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cynorthwyydd Cymorth Ymyrraeth Llythrennedd – Ysgol Gorllewin Mynwy

Torfaen Local Authority

Cyflog: Grade 5 | £29,064 - £32,061 PRO RATA

Mae'r Corff Llywodraethol am benodi Cynorthwyydd Cymorth Ymyrraeth Llythrennedd ysbrydoledig a deinamig i helpu i godi safonau llythrennedd ar draws yr ysgol er mwyn cefnogi disgyblion i ddatblygu sgiliau llythrennedd rhagorol. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal ymyraethau llythrennedd mewn grwpiau bach i ddisgyblion i gefnogi cynnydd ac ymgysylltiad disgyblion. Efallai y bydd angen rhywfaint o gefnogaeth yn y dosbarth i ddisgyblion yn y rôl hefyd. Mae profiad o weithio gyda phlant mewn lleoliad addysgol yn hanfodol ond bydd hyfforddiant mewn unrhyw becynnau neu ddulliau penodol yn cael ei ddarparu.

Mae Gorllewin Mynwy'n ysgol gyfun gymysg 11-16 oed sy'n gwasanaethu Pont-y-pŵl a'r ardal gyfagos. Mae gan Orllewin Mynwy enw rhagorol yn ei chymuned am ganlyniadau academaidd a gofal bugeiliol ac mae llawer o ddisgyblion o'r tu allan i'n dalgylch traddodiadol wedi dewis ymuno â ni yn ystod y blynyddoedd diwethaf.

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf Hanfodol a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .

Mae'r swyddhon wedi' iheithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelua Gwahardd.

Mae angen cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg ar gyfer y swydd hon.

Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn. Rydym yn gwerthfawrogi'r ystod o brofiadau a ddaw yn sgil gweithlu amrywiol ac felly rydym yn croesawu ceisiadau gan bobl o bob cefndir a grwpiau sy'n cael eu tangynrychioli.

Mae sgiliau iaith Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y rôl hon ond nid ydynt yn hanfodol.Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.

Rydyn ni wedi cofrestru fel ArweinyddHyderus o ran Anabledd, ac ymrwymo i gyflogi a datblygu gyrfaoedd pobl anabl. Mae ein Cynllun Gwarantu Cyfweliad yn gwarantu y bydd pobl ag anableddau yn cael eu gwahodd i gyfweliad, ar yr amod eu bod yn bodloni'r gofynion hanfodol ar gyfer y rôl. Os oes gennych gyflwr iechyd, os ydych yn niwroamrywiol, neu'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, a hoffech drafod addasiadau rhesymol, cysylltwch â'r rheolwr recriwtio. Gallwn weithio gyda chi i drefnu addasiadau os ydym yn gwybod pa ofynion sydd gennych, cyn i chi gyflwyno'ch cais, sefyll prawf neu ddod i gyfweliad.

Gwnewch yn siŵr mai drwy wefan swyddi gwag Cyngor Torfaen yn unig yr ydych chi'n gwneud cais am y swydd hon. Nid ydym yn derbyn CVs na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno ar unrhyw wefannau eraill.