MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Dirprwy Bennaeth - Ysgol Y Bryn

Cyngor Sir Caerfyrddin
Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1619

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Ysgol Gynradd Gymunedol y Bryn

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Parhaol Amser Llawn

Lleoliad: Llanelli

Gradd: Penaethiaid/Penaethiaid Cynorthwyol/Dirprwy Benaethiaid - Cyflog ac Amodau

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyflog o: L5 - £55,900

Cyflog i: L9 - £61,705

Oriau Contract: 32.5

Dewch i ymuno â'n tîm
Dirprwy Bennaeth - Ysgol Y Bryn

Ystod Cyflog: L5 - L9

Dyddiad Dechrau: Medi 2025

Oherwydd dyrchafiad deiliad y swydd bresennol, mae cyfle cyffrous wedi codi i ymuno â thîm arweinyddiaeth Ysgol Y Bryn. Rydym yn gymuned ysgol gyfeillgar, ymroddedig a chreadigol, gyda gwerthoedd cryf o gynhwysiant, arloesedd a chydweithrediad.

Mae'r Corff Llywodraethu yn dymuno penodi person brwdfrydig, empathig, egnïol ac eithriadol o gymhellol i ymuno â'n tîm arweinyddiaeth cefnogol ac ymroddedig.

Prif Ddiben y Swydd:

• Datblygu a hyrwyddo gwelliant ysgol, hunanwerthuso ac asesu.

• Gweithio'n gydweithredol gyda'r Pennaeth a'r Llywodraethwyr i ddarparu arweinyddiaeth ac ysgolheictod effeithiol i sicrhau bod pob disgybl yn mwynhau llwyddiant ac yn cyflawni eu potensial llawn.

• Fel aelod allweddol o'r tîm arweinyddiaeth, gwneud cyfraniad proffesiynol cadarnhaol ac arwyddocaol i ddyfodol yr ysgol.

• Cefnogi safonau, cynhwysiant a lles pob dysgwr.

• Datblygu a chynnal polisi addysgu a dysgu ar gyfer yr ysgol sy'n ymateb i ddatblygiadau diweddaraf.

Taith o amgylch yr Ysgol:

Dydd Mercher 30 Ebrill 2025, am 1:30yp a 4:00yp

Dyddiad Cau ar gyfer Ceisiadau:

Dydd Llun 5 Mai 2025

Dyddiad Dethol ar gyfer y Rhestr Fer:

Dydd Mawrth 6 Mai 2025

Arsylwadau Gwersi:

Yr wythnos yn dechrau 12 Mai 2025 (yn ysgol y ymgeisydd)

Cyfweliadau:

Dydd Mawrth 20 Mai 2025

Cysylltwch os gwelwch yn dda John Williams 01554 821124

Disgrifiad Swydd: Deptuy Headteacher 2025 Job Pack Final.pdf - 2866KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 20 Mai 2025

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 2 - Bydd angen ichi fod â lefel sylfaenol o Gymraeg llafar. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 05/05/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.