MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Not Supplied
- Cyflog: Teacher's Main Scale
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Athro x4 Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Blenheim Road a Choed Eva
Torfaen Local Authority
Cyflog: Teacher's Main Scale
Mae Ffederasiwn Ysgolion Cynradd Cymunedol Blenheim Road a Choed Eva yn chwilio am 2 Athro Parhaol a 2 Athro Dros Dro.Nodwch yn eich cais os ydych chi'n gwneud cais am swydd barhaol neu swydd dros dro.
Dyddiad Cychwyn: Medi 2025
Hoffech chi weithio mewn dwy o'r ysgolion mwyaf uchelgeisiol yng Nghymru?
Hoffech chi fod yn rhan o gymuned ddysgu lle, rydyn ni'n ymdrechu ym mhopeth a wnawn i:
- dyfu dysgwyr llwyddiannus, ffyniannus;
- arwain ein pobl at ragoriaeth; a
- newid ein cymuned a'n gwlad er gwell
Mae ein Ffederasiwn yn unigryw yng Nghymru. Yn ein cymuned ysgol gyfan, rydym yn ymdrechu'n gyson i sicrhau'r:
- lefelau cyrhaeddiad uchaf ar gyfer ein dysgwyr a'n staff;
- ymgysylltiad mwyaf effeithiol â theuluoedd a'r gymuned; a'r
- lefelau llesiant uchaf posibl.
Rydym yn ymdrechu i ddatblygu ein gwaith ymhellach ar Ddysgu Proffesiynol Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth (DARPL) ac rydym wedi ymrwymo'n gadarn i ddatblygu'r dull Froebelaidd drwyddi draw yn ein hysgolion.
Dyma amser cyffrous iawn i ymuno â ni wrth i ni gyfoethogi ein cwricwlwm ymhellach, gan ymgorffori&©r cysyniadau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg (STEAM) yn ein hymarfer. Rydym yn gwerthfawrogi bod creadigrwydd ac arloesi yn sgiliau annatod, sy'n sicrhau ein bod yn cynnig profiadau dysgu cyfoethog i bob aelod o'n cymuned.
Os yw heriau fel hyn yn eich cyffroi, ac os ydych chi'n barod i gael eich grymuso i weithio fel aelod allweddol o'n tîm, yna edrychwn ymlaen at gwrdd â chi.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio rhag Deddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad manylach gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Ar gyfer y swydd hon mae gofyn cofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg.
Mae Cyngor Bwrdeistref Siriol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo llesiant plant, pobl ifanc ac oedolion sy'n agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i'w gyflogeion, boed yn gweithio am dâl neu'n ddi-dâl, i rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich cais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.
Dyddiad Cau: Dydd Llun 5 Mai 2025 (23:59)
Llunio Rhestr Fer: Dydd Mawrth 6 Mai 2025
Arsylwi ar Wers: 12 a 13 Mai 2025
Cyfweliadau: 15 Mai 2025