MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Pencoed,
- Oriau: Part time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £24,425 - £25,773 y flwyddyn (pro rata)
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa Gyflog 3: £24,425 - £25,773 y flwyddyn (pro rata)
Technegydd Peirianneg Fecanyddol0.4 gyfwerth ag amser llawn (14.8 awr yr wythnos) a Pharhaol
Graddfa Gyflog 3: £24,425 - £25,773 y flwyddyn (pro rata)
(Cyflog gwirioneddol: £9,770 - £10,309.20 y flwyddyn)
Ydych chi'n angerddol am beirianneg ac yn awyddus i ysbrydoli'r genhedlaeth nesaf o feddyliau mecanyddol? Ymunwch â'n tîm deinamig yng Ngholeg Penybont, lle bydd eich arbenigedd technegol yn helpu i lunio dyfodol darpar beirianwyr.
Diben y swydd: Cefnogi'r tîm darparu, paratoi deunyddiau ac adnoddau dysgu, a chynnal a chadw gweithdai, offer ac adnoddau er mwyn cynorthwyo gyda darpariaeth hyfforddiant effeithlon ac effeithiol.
Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth y swydd .
Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses drylwyr i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae'r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig.
Mae Coleg Penybont yn deall gwerth darparu gwasanaethau yn Gymraeg a'r angen i dyfu ei weithlu dwyieithog. Rydym felly'n annog ceisiadau gan ymgeiswyr sydd â sgiliau Cymraeg da. Nodwch yn eich datganiad personol a fyddai'n well gennych i'ch asesiad/cyfweliad gael ei gynnal yn Gymraeg.
Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfleoedd cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.
Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Hyderus o ran Anabledd ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un sydd ag anabledd cyn belled â bod eu cais yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.
Bydd gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus ddarparu tystiolaeth o'i hunaniaeth a'i gymhwystra i weithio yn y DU.
Nid yw'r Coleg yn cymryd rhan yng Nghynllun Noddi Fisa'r DU, felly bydd rhaid i ymgeiswyr ddarparu tystiolaeth o'u hawl i weithio yn y DU os cynigir rôl iddynt gyda ni.
Noder, efallai y bydd gofyn am gyfweliad neu asesiad ail gam.