MANYLION
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within - L15 to L19: £71,523 - £78,910
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 05 Mai, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: Pay Scale Within - L15 to L19: £71,523 - £78,910
Cyfle cyffrous i ymuno â'n strwythur arwain newydd! Rydym yn recriwtio ar gyfer tair rôl dirprwy bennaeth - Ysgol Arbennig (3-19)Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025
Cyflog: L15 - L19
Math o gontract: Parhaol, amser llawn
Dyddiad cau: 5 Mai 2025 ganol nos
Diwrnodau cyfweld: 15 a 16 Mai 2025
Mae'r ysgol yng nghanol cyfnod tyngedfennol yn ei hanes, ac wrthi'n cyflwyno strwythur arweinyddiaeth newydd a luniwyd i wella ein darpariaeth a sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i'n dysgwyr. Fel rhan o'r trawsnewidiad hwn, rydym yn chwilio am dri dirprwy bennaeth deinamig i ymuno â'r uwch-dîm arwain. Mae hwn yn gyfnod cyffrous i'n hysgol wrth i ni gryfhau ein darpariaeth, datblygu ein hunedau lloeren, ac ehangu ein rhaglen allgymorth ar draws Sir Benfro. Fel unig ysgol arbennig y sir, rydym wedi ymrwymo i rannu ein harferion rhagorol a sicrhau'r addysg orau posibl i bob dysgwr ag anghenion ychwanegol.
I roi'r weledigaeth hon ar waith, rydym yn chwilio am dri dirprwy bennaeth deinamig ac uchelgeisiol i ymuno â'm arwain.
Bydd gan bob dirprwy bennaeth rôl arweinyddiaeth ddeuol:
- Ysgol isaf
- Ysgol ganol
- Ysgol uchaf
- Diogelu, ymddygiad a chymorth disgyblion - sicrhau'r safonau uchaf o ran diogelwch, llesiant, a chymorth ymddygiad disgyblion.
- Addysgu a dysgu / cwricwlwm / datblygiad proffesiynol parhaus - arwain datblygiad cwricwlwm arloesol a chynhwysol yn unol â'r Cwricwlwm i Gymru.
- Data ac asesu - sbarduno gwelliant ar draws yr ysgol drwy strategaethau asesu a dulliau dadansoddi data effeithiol.
Yn ogystal â'u rolau craidd, bydd ein dirprwy benaethiaid yn chwarae rhan allweddol wrth gyflawni'r canlynol:
- Rheoli a datblygu ein dwy uned loeren, gan sicrhau eu bod yn cael eu hintegreiddio'n llawn i weledigaeth a gwerthoedd yr ysgol.
- Adeiladu ein rhaglen allgymorth, gan rannu ein harbenigedd gyda darpariaeth leol ar draws y sir.
Pam ymuno â ni?
- Byddwch yn rhan o fodel arweinyddiaeth newydd cyffrous sydd wedi'i lunio i sicrhau'r effaith fwyaf posibl ar draws yr ysgol.
- Gwnewch wahaniaeth gwirioneddol i fywydau plant a phobl ifanc ag anghenion dysgu ychwanegol.
- Arweiniwch mewn amgylchedd cefnogol a blaengar lle bydd eich arbenigedd a'ch syniadau yn llywio dyfodol yr ysgol.
- Gweithiwch mewn ardal brydferth o Gymru, mewn cymuned ysgol groesawgar a chynhwysol.
Byddwch yn rhan o strwythur arwain newydd cyffrous!
Am beth rydyn ni'n chwilio?
Rydyn ni'n chwilio am arweinwyr angerddol a phrofiadol:
- sy'n meddu ar statws athro cymwysedig gyda phrofiad o anghenion dysgu ychwanegol.
- sydd â phrofiad arweinyddiaeth amlwg o ran gwella ysgolion, datblygu staff ac arwain cyfnod.
- sy'n meddu ar arbenigedd yn un o'r tri maes arweinyddiaeth ysgol gyfan (diogelu ac ymddygiad, addysgu a dysgu/cwricwlwm, neu ddata ac asesu).
- sy'n gyfathrebwyr cryf, yn ddatryswyr problemau, ac yn chwaraewyr tîm sy'n gallu ysbrydoli a datblygu eraill.
Fideo Addysgu yn Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Dyddiad cau: Dydd Llun 5 Mai 2025 ganol nos
Dyddiad y cyfweliadau: 15 ac 16 Mai 2025
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.