MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Blank
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro (Ysgol Penmaes)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Blank

Athro (Ysgol Penmaes)
Swydd-ddisgrifiad
Cyfle Gyrfa i Arweinydd Canolig
Athro dosbarth MP S/UPS a CAD 2B ac 1 AAA

Dyddiad dechrau - Medi 2025

Mae Corff Llywodraethol Ysgol Penmaes yn chwilio am athro arloesol, ymroddedig ac ysbrydoledig i weithio fel arweinyddcanol gyda'r UDRh a'r timau MDPh perthnasol, i ddal rhywfaint o gyfrifoldeb ac atebolrwydd am arwain, a rheoli dau faes dysgu a phrofiad, yn ogystal â bod yn athro llawn amser. Bydd yr MDPh penodol a ddynodwyd yn dibynnu ar sgiliau a
phrofiad yr ymgeisydd llwyddiannus. Sylwch fod yr arweinwyr MDPh yn cael eu dosbarthu fel a ganlyn ar hyn o bryd:

● Llenyddiaeth, Ieithoedd a Diwylliannau a'r Dyniaethau
● Celfyddydau Mynegiannol ac Iechyd a Lles
● Mathemateg a Rhifedd a Gwyddoniaeth a Thechnoleg

Mae hwn yn gyfle gwych i wneud eich marc, datblygu sgiliau cydweithio ac i chwarae rhan weithredol yng nghyfeiriad strategol yr ysgol.

Fel rhan o'r rôl hon byddwch yn gweithio'n agos gyda'r ddau ddeiliaid CAD arall. Bydd timau Meysydd Dysgu a Phrofiad hefyd yn cefnogi datblygiad pob MDPh.

Byddwch hefyd yn gweithio ar y cyd â'r Dirprwy Bennaeth - arweinydd cwricwlwm yr ysgol yn ogystal â'r Pennaeth Cynorthwyol sy'n allweddol wrth ddatblygu data ysgol gyfan.