MANYLION
- Lleoliad: Ysgol Llanllechid, Bangor,
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £947 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £947 y flwyddyn
ManylionHysbyseb Swydd
ADDYSG
YSGOLION CYNRADD
Ysgol Llanllechid
(Cynradd Oedran 3-11)
Yn eisiau: 1af o Fai 2025 (neu cyn gynted â phosib wedi hynny)
Clerc Llywodraethwyr
Telir cyflog ar GS2 pwyntiau 3-4 sef £929 - £947 y flwyddyn (pro rata) yn ôl profiad a chymhwyster ar gyfer y swydd Clerc Llywodraethwyr.
ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS2) CYNRADD
Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod 3 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod 7.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr
Cyfanswm oriau fesul cyfarfod 12.5awr
12.5awr x 6 cyfarfod = 75 awr
Gweinyddiaeth - DBS, buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
7.5 awr mewn blwyddyn
Gweinyddu =7.5 awr
Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant
Cyfanswm oriau = 84.5awr
Disgwylir i'r ymgeisydd fod â sgiliau cyfrifiadurol o safon uchel. Mae'r gallu i gyfathrebu'n effeithiol trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol ar gyfer y swyddi yma.
Gwahoddir unrhyw rai sydd â diddordeb a/neu sydd angen gwybodaeth ychwanegol i drafod yn anffurfiol gyda'r Pennaeth, Mrs Gwenan Davies Jones (Rhif Ffôn 01248 600 600) e-bost:
Gwenan.DaviesJones@llanllechid.ysgoliongwynedd.cymru
Mae ffurflenni cais ar gael i'w lawr lwytho ar dudalen Swyddi Dysgu ar wefan Cyngor Gwynedd ac i'w ddychwelyd i'r cyfeiriad isod:-.
Pennaeth Ysgol Llanllechid
Rachub,
Bangor,
Gwynedd.
LL57 3EH
Bydd y Cyngor yn gofyn am ddadleniad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae'r awdurdod hwn wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant a phobl ifanc ac mae'n disgwyl y bydd pob un o'i staff a'i wirfoddolwr yn rhannu'r ymrwymiad hwn.
Manylion Person
Nodweddion personolHanfodol
Yn gallu cyd-weithio fel aelod o dim.
Yn gallu gweithio i gyrraedd targedau penodol.
Gallu cyfathrebu'n effeithiol ac arddangos blaengaredd (gweld gwaith).
Dymunol
-
Cymwysterau a hyfforddiant perthnasolHanfodol
Cefndir addysgol cadarn.
Cymhwyster Lefel 2 neu gyfwerth.
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus gwblhau'r cymhwyster/hyfforddiant ar gyfer Clercod Llywodraethol o fewn cyfnod o flwyddyn o ddyddiad y penodiad.
Dymunol
Cymhwyster cydnabyddedig neu brofiad blaenorol ym maes gweinyddiaeth.
Wedi mynychu cyrsiau hyfforddi llywodraethwyr yn y gorffennol.
Profiad perthnasolHanfodol
Profiad blaenorol o gofnodi cyfarfodydd, pwyllgorau, cymdeithasau neu glybiau.
Dymunol
Ymwybyddiaeth o faes Llywodraethwyr Ysgolion.
Profiad o gydweithio'n effeithiol efo gweithwyr eraill ar bob lefel.
Sgiliau a gwybodaeth arbenigolHanfodol
Sgiliau cyfathrebu cryf yn y Gymraeg a'r Saesneg gyda'n effeithiol.
Dymunol
Gwybodaeth am drefniadaeth Cyrff Llywodraethol Ysgolion
Profiad o ddefnyddio meddalwedd Microsoft Office a'r we
Anghenion ieithyddolHanfodolGwrando a Siarad - Lefel Uwch
Gallu dilyn sgwrs neu drafodaeth drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg ar lefel broffesiynol a thrafod pynciau cyffredinol bob dydd yn y maes er mwyn cyflwyno gwybodaeth a mynegi barn.Gallu darparu cyflwyniad wedi'i baratoi o flaen llaw ac ymateb i unrhyw sylwadau a chwestiynau arno drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg.
Darllen a Deall - Lefel Uwch
Gallu deall Cymraeg a Saesneg ysgrifenedig safonol, ffurfiol ac anffurfiol.Medru casglu gwybodaeth o amrywiol ffynonellau megis llythyrau, adroddiadau, erthyglau, drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg er mwyn cyflawni'r swydd.
Ysgrifennu - Lefel Uwch
Cyflwyno gwybodaeth ysgrifenedig gyda hyder ar ffurf llythyr, adroddiad mwy manwl a thechnegol ac ymateb i geisiadau ysgrifenedig gan gyfleu gwybodaeth, syniadau a barn drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg. (Mae'n bosib cael cymorth i wirio'r iaith)
Swydd Ddisgrifiad
Pwrpas y swydd
• Sicrhau bod pobl Gwynedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud.
• Darparu gwasanaeth Clerigol i'r Corff Llywodraethol.
• Gweinyddu a chefnogi gwaith y Corff Llywodraethu yn unol â chanllawiau'r awdurdod lleol, gan weithio'n effeithiol gyda chadeirydd y llywodraethwyr a phennaeth yr ysgol.
Cyfrifoldeb am adnoddau e.e. staff, cyllid, offer
• -
Prif ddyletswyddau
• Cyd-weithio gyda'r Cadeirydd a'r Pennaeth ar gynnwys rhaglen cyfarfodydd gan ddarparu papurau cefndir ar gyfer y
cyfarfodydd hynny - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
• Darparu ac anfon rhaglen i aelodau'r corff llywodraethu - 5 niwrnod gwaith cyn y cyfarfod.
• Gwirio gyda'r Cadeirydd ar unrhyw faterion y gweithredwyd arnynt rhwng cyfarfodydd ac sydd angen eu hadrodd i'r corff llywodraethu.
• Mynychu cyfarfodydd y corff llywodraethu llawn yn ogystal â'r is-bwyllgorau statudol gan gymryd cofnodion priodol (hyd at 6cyfarfod yn flynyddol yn unig). Gall y Clerc hawlio tal ychwanegol i glercio cyfarfodydd ychwanegol.
• Mae'n statudol i Gorff Llywodraethu gynnal o leiaf un cyfarfod o'r Corff Llawn yn dymhorol
• Cyfarfod ffurfiol y rhieni gyda'r Llywodraethwyr pe byddai gofyn yn dilyn petitiwn
• Is-bwyllgorau statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol os yw dros 6 cyfarfod mewn blwyddyn
• Sicrhau bod y Corff Llywodraethu yn pennu dyddiadau ar gyfer cyfarfodydd ymlaen llaw a bod y wybodaeth
hynny yn hysbys i'r Awdurdod Lleol.
• Cynhyrchu ac anfon copïau drafft o'r cofnodion i'r Pennaeth cyn creu fersiwn derfynol i'w
ddosbarthu i bob aelod o'r Corff Llywodraethu a ALl.
• Cofnodi presenoldeb llywodraethwyr mewn cyfarfodydd a rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn
perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg presenoldeb.
• Cadw cofnod o dymor gwasanaeth pob llywodraethwr gan gysylltu â'r Awdurdod Lleol ar achlysuron pan fo
cyfnod gwasanaeth yn dod i ben, neu pan fo ymddiswyddiadau.
• Gohebu ar ran y Corff Llywodraethu, yn ôl yr angen.
• Cadw trefn ar gofnodion, gohebiaeth a dogfennau eraill yng nghyswllt gwaith y corff llywodraethu.
• Cynorthwyo'r Pennaeth a'r Corff Llywodraethu i baratoi Adroddiad Blynyddol i Rieni.
• Mynychu a chadw cofnodion o Gyfarfod Llywodraethwyr a Rhieni wedi dilyn cais gan y Rhieni.
•r Corff Llywodraethol i ddarparu tystiolaeth ar gyfer Gwobrau Ansawdd i' Mynychu'r cyrsiau a drefnir ar gyfer Clercod Llywodraethol, a chwblhau'r cwrs mandadol i glercod newydd. Dosbarthu gwybodaeth am hyfforddiant i'r Corff Llywodraethol, cadw cofnod o'r llywodraethwyr fynychodd.
• Cadw cofnod fanwl o'r llywodraethwyr sydd angen mynychu cyrsiau mandadol . Rhagrybuddio unrhyw lywodraethwr sydd mewn perygl o'i ddatgymhwyso oherwydd diffyg mynychu cwrs mandadol.
• Disgwylir i'r Clerc gadw cofnod a gofalu fod Dadleniad Datganiad Troseddol a Datganiad Buddiant pob llywodraethwr yn gyfredol.
• Cyfrifoldeb am hunan ddatblygiad
• Sicrhau cydymffurfiaeth â rheolau Iechyd a Diogelwch yn y gweithle yn unol â'r cyfrifoldebau a nodir yn Neddf Iechyd a Diogelwch yn y Gweithle 1974 a Pholisi Iechyd a Diogelwch y Cyngor.
• Gweithredu o fewn polisïau'r Cyngor yng nghyswllt cyfle cyfartal a chydraddoldeb.
• Cyfrifoldeb am reoli gwybodaeth yn unol â safonau a chanllawiau rheoli gwybodaeth y Cyngor. Sicrhau bod gwybodaeth bersonol yn cael ei thrin mewn cydymffurfiaeth â deddfwriaeth Diogelu Data
• Ymrwymiad i leihau allyriadau carbon y Cyngor yn unol â'r Cynllun Rheoli Carbon ac annog eraill i weithredu'n gadarnhaol tuag at leihau ôl-troed carbon y Cyngor.
• Ymgymryd ag unrhyw ddyletswydd arall cyfatebol a rhesymol sy'n cyd-fynd â lefel cyflog a lefel cyfrifoldeb y swydd.
• Cyfrifoldeb i adrodd am bryder neu amheuaeth bod plentyn neu oedolyn bregus yn cael ei gamdrin
Amgylchiadau arbennig
• Angen i weithio oriau anghymdeithasol - fin nos fel rheol y cynhelir cyfarfodydd y Cyrff Llywodraethol.
• Angen bod ar gael i gofnodi mewn 6 cyfarfod mewn blwyddyn
• Angen bod ar gael i gofnodi mewn is-baneli statudol yn ol y gofyn am dal ychwanegol
• Angen bod ar gael i gofnodi mewn cyfarfod ffurfiol ar gais Rhieni gyda Llywodraethwyr
ORIAU CLERCIO LLYWODRAETHOL (GS4) CYNRADD
Paratoi ymlaenllaw cyn cyfarfod3 awr bob cyfarfod
Cofnodion a gohebu wedi cyfarfod7.5awr bob cyfarfod
Cyfarfod 2 awr
Cyfanswm oriau fesul cyfarfod12.5awr
12.5awr x 6 cyfarfod = 75 awr
Gweinyddiaeth - DBS,buddiannau, Cyrsiau Llywodraethwyr, Etholiadau, Aelodaeth, Rhestr Polisiau
7.5 awr mewn blwyddyn
Gweinyddu =7.5 awr
Yn ychwanegol i hyn telir 2 awr ar gyfer hyfforddiant
Cyfanswm oriau = 84.5awr
NODYN
• 6 cyfarfod Corff Llywodraethol mewn blwyddyn.
• Pe byddai'r cyfarfod yn mynd dros 2 awr gall y Clerc hawlio gor-amser.
•r corff angen gwasanaeth y Clerc mewn is-banel neu mwy na 6 cyfarfod gall y Clerc hawlio'r amser hwn yn ychwanegol.
- Ceisio ar lein - Sut?
- Rhestr Swyddi