MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4 | Hourly rate: £13.26 - £13.91
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Achlysurol Gweithiwr Gofal Plant (Y Blynyddoedd Cynnar)

Torfaen Local Authority

Cyflog: £25,584 - £26,835 Pro Rata | Grade 4 | Hourly rate: £13.26 - £13.91

Mae'n hanfodol eich bod yn dangos sut rydych yn bodloni'r meini prawf 'hanfodol' a restrir yn y Fanyleb Person atodol, er mwyn sicrhau cyfweliad: Sut i wneud cais Canllaw i ymgeiswyr Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen .
Byddai'n ofynnol i'r Gweithiwr Gofal Plant Achlysurol gyflenwi mewn amrywiaeth o leoliadau Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar a Thîm y Crèche Symudol
Mae Tîm y Blynyddoedd Cynnar yn chwilio am Weithiwr Gofal Plant Achlysurol, sy gymwys, profiadol a brwdfrydig, i gamu i mewn i rôl pan fydd angen yn codi.
Byddwch yn gyfrifol am gynorthwyo'r Goruchwyliwr Gofal Plant i ddarparu gofal plant o ansawdd uchel yn y maes hwn..
Rhaid bod deiliad y swydd yn meddu ar gymhwyster perthnasol yn y maes Blynyddoedd Cynnar/Gofal Plant, fel NVQ Lefel 3 neu gyfwerth.
Byddai'r gallu i siarad Cymraeg yn fantais neu bydd angen bod yn barod i gymryd rhan yn rhaglen CAMAU Llywodraeth Cymru - sef y cyfle i ddysgu Cymraeg ar gyfer Gofal Plant y Blynyddoedd Cynnar.
Rhaid bod gennych brofiad o weithio gyda phlant, a deall yr hyn sydd ei angen i ddarparu amgylchedd dysgu o ansawdd uchel i blant 0-5 oed. Byddai profiad o ddarpariaeth Dechrau'n Deg yn ddymunol.
I gael trafodaeth anffurfiol ynghylch y swydd hon, cysylltwch ag Emma Edwards ar 07940792823.
Mae'r swydd hon wedi'i heithrio o Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr 1974. Bydd proses sgrinio gynhwysfawr yn cael ei chynnal ar gyfer pob ymgeisydd a fydd yn cynnwys gwiriad Manwl gyda'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae Cyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen yn ymdrechu i fod yn gyflogwr teg, cefnogol ac effeithiol. Mae'r Cyngor wedi ymrwymo i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i niwed. Mae'r Cyngor yn disgwyl i bob gweithiwr, cyflogedig neu ddi-dâl, rannu'r ymrwymiad hwn.
Mae croeso i chi gyflwyno eich ffurflen gais yn Gymraeg neu yn Saesneg. Bydd pob cais yn cael ei drin yn gyfartal.