MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Conwy,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: G01 pwynt 2-3 £5,360 - £5,444 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cymhorthydd Addysgu Lefel 1 Dros Dro - Ysgol Pencae
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: G01 pwynt 2-3 £5,360 - £5,444 y flwyddyn
YSGOL PENCAE, PENMAENMAWRFfordd Graiglwyd, Penmaenmawr, LL34 6YG
Ffon: 01492 622219
ebost: pennaeth@pencae.conwy.sch.uk
Pennaeth: Mr Owain Ellis
Yn eisiau erbyn mis Mai 2025
CYMHORTHYDD ADDYSGU LEFEL 1 DROS DRO
(01/05/2025 - 12/04/2026)
Mae Ysgol Pencae angen apwyntio Cymhorthydd Addysgu Cyfnod Sylfaen Lefel 1. Mae'r gallu i gyfathrebu a gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Oherwydd natur y swydd byddwn yn gofyn am ddatgeliad gan
y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer yr ymgeisydd llwyddiannus.
Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd cysylltwch â'r ysgol ar 01492 622219
I wneud cais am y swydd hon, ewch i www.conwy.gov.uk/swyddi i lenwi cais ar lein.
Noder nid yw'r awdurdod yn cyhoeddi ffurflenni cais ac nid yw'n derbyn CV.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu - bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu gwirio.
Os nad ydych wedi derbyn ymateb o fewn 3 wythnos i'r dyddiad cau, rhaid i'r ymgeiswyr tybio nad ydynt wedi cael eu cynnwys yn y rhestr fer ac felly ni fyddent yn cael eu hysbysu mewn ysgrifen.
Wrth fynd ati i hyrwyddo cyfle cyfartal, mae Conwy yn croesawu ymgeiswyr o bob rhan o'r gymuned. Bydd pob ymgeisydd anabl sy'n diwallu gofynion hanfodol swydd yn cael cyfweliad.
This form is also available in English