MANYLION
- Lleoliad: Canolfan Rheidol, Aberystwyth,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 61,106 - 67,133 *
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: 61,106 - 67,133 *
Ynglŷn â'r rôlSylwch fod y cyflog a hysbysebir ar gyfer y swydd hon yn amodol ar ddyfarniad cyflog sydd ar ddod. Bydd y cyflog terfynol yn cael ei addasu yn unol â'r dyfarniad cyflog a gytunwyd yn genedlaethol.
Soulbury 16-21 (i gynnwys SPA 1, 2 +3 )
Dwyieithrwydd: Hanfodol
Mae Gwasanaeth Ysgolion Cyngor Sir Ceredigion yn chwilio am unigolyn deinamig a brwdfrydig iawn i fod yn Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion. Dyma gyfle cyffrous i ymuno â Gwasanaeth Ysgolion blaengar lle byddwch yn arweinydd allweddol ar y strategaethau i wella ysgolion yng Ngheredigion.
Mewn cydweithrediad â'r Rheolwr Corfforaethol Gwella Ysgolion a'r Swyddog Corfforaethol Dysgu Gydol Oes, Ysgolion a Diwylliant, byddwch yn cyfrannu at welliant addysgol trwy gefnogi, cynghori a herio ysgolion a phartneriaid i gyrraedd a chyflawni'r safonau uchaf. Mae Ceredigion yn rhan o Barterniaeth Addysg Canolbarth Cymru, ac yn cyd-weithio gyda Phowys i ddatblygu blaenoriaethau cytûn .
Disgwylir i'r ymgeisydd llwyddiannus:
- ymgymryd â gwaith ymgynghorol mewn ysgolion a chyda phartneriaid eraill o fewn yr awdurdod ac, o bryd i'w gilydd, ar draws awdurdodau eraill
- cyfrannu at waith y Tîm Gwella Ysgolion gan arwain ar faes penodol
- rheoli gwelliant mewn meysydd addysgol penodol yn sirol gan fynychu fforymau perthnasol ar lefel leol, gyda Pharneriaeth Canolbarth Cymru a chyda'r Llywodraeth
- cyfrannu at ddatblygu cymorth ysgol i ysgol drwy helpu i nodi arfer arloesol ac effeithiol a chefnogi cydweithio rhwng ysgolion
- cyfrannu at frocera a chydlynu cymorth i ddiwallu anghenion ysgolion
- cynghori a chynorthwyo gwaith un o'r pwyllgorau talaith
- bod yn Reolwr Llinell ar aelodau staff penodol, gan fonitro a hybu eu datblygiad proffesiynol
- cyfrannu yn ôl y gofyn i bob agwedd o yrru gwelliant mewn ysgolion
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Cyfweliad
Cynhelir cyfweliadau ar y 29ain o Ebrill.
Ar ddechrau'r cyfweliad, bydd gofyn i chi gyflwyno, am ddeg munud ar y mwyaf, ar "Eich gweledigaeth am wella ysgolion yng Ngheredigion dros y 3 blynedd nesaf"
Am sgwrs anffurfiol, cysylltwch Rhianydd James, Rheolwr Corfforaethol Gwella Ysgolion ar 07811 593801 neu drwy e-bost rhianydd.james@ceredigion.gov.uk
Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Darllen mwy Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy