MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Ogmore Vale Primary,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Fesul awr
- Cyflog: Graddfa arweinyddiaeth L15 – L21* £71,523.00 - £82,047.00*
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Pennaeth - Ysgol Gynradd Cwm Ogwr
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: Graddfa arweinyddiaeth L15 – L21* £71,523.00 - £82,047.00*
Pennaeth - Ysgol Gynradd Cwm OgwrDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Mae Ysgol Gynradd Cwm Ogwr wedi'i lleoli i'r gogledd o Ben-y-bont ar Ogwr a ger cyffordd 36 traffordd yr M4. Mae'r ysgol yn gwasanaethu dalgylch amrywiol ac mae'n ganolog i'r gymuned leol gyda staff cyfeillgar. Mae'r ysgol ar daith ddatblygiadol ac mae ganddi 300 o ddisgyblion ar y gofrestr.
A chithau'n Bennaeth, Dirprwy Bennaeth neu'n weithiwr proffesiynol ym myd addysg, bydd gennych brofiad rheoli sylweddol gyda sgiliau arweinyddiaeth, sefydliadol a rhyngbersonol profedig. Byddwch yn ymroddedig i arwain drwy esiampl a gweithio mewn partneriaeth â disgyblion, staff, rhieni a llywodraethwyr, a'r gymuned leol i ddarparu amgylchedd lle mae'r staff a'r disgyblion yn cael eu cynorthwyo i ffynnu a chyflawni eu potensial llawn.
Rydym yn chwilio am Bennaeth â gweledigaeth glir i barhau'r ymgyrch i sicrhau safonau uchel yn yr ysgol. Bydd yn ofynnol i chi ddarparu arweinyddiaeth i'r ysgol i gynnal ei llwyddiant ac i sicrhau addysg o safon uchel i bob disgybl a pharhau i godi safonau cyflawniad.
Rhaid i ymgeiswyr sy'n gwneud cais am eu penodiad cyntaf yn Bennaeth feddu ar y CPCP.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 30 Ebrill 2025
Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Mai 2025
Dyddiad y Cyfweliad: 12 & 13 Mai 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person