MANYLION
  • Lleoliad: Llanelli, Sa15 4DN
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,424 - £25,199 / blwyddyn
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Cynorthwyydd Iechyd a Diogelwch

Coleg Sir Gar

Cyflog: £24,424 - £25,199 / blwyddyn

Cynorthwyydd Iechyd a Diogelwch
Application Deadline: 22 April 2025

Department: Ystadau

Employment Type: Parhaol

Location: Campws Graig

Reporting To: Health and Safety Manager

Compensation: £24,424 - £25,199 / blwyddyn

DescriptionMae gan Goleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion gyfle cyffrous i Gynorthwyydd Iechyd a Diogelwch ymuno â'r tîm, ar Gampws y Graig yn Llanelli. Mae'r swydd yn cynnig cyfle ardderchog i ennill profiad ym maes iechyd a diogelwch o fewn sefydliad addysgol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'r Adran Ystadau, sydd fel adran, yn gyfrifol am waith cynnal a chadw adweithiol a gwaith cynnal a chadw sydd wedi'i gynllunio ar adeiladau'r Coleg, prosiectau cyfalaf mawr, gwaith mân, cydymffurfio â deddfwriaeth, rheolaeth amgylcheddol, data ystadau, Arlwyo, Swyddfeydd y Campws, Cludiant, cynnal a chadw tiroedd a chydymffurfio ag Iechyd a Diogelwch. Mae'r swydd yn cynnig cyfle cyffrous a llawn her i unigolyn rhagweithiol a dyfeisgar i fod y rhan o Adran Ystadau Coleg Sir Gâr a Choleg Ceredigion.

Yr hyn fyddwch chi'n ei wneudBydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cefnogi'r Rheolwr Iechyd a Diogelwch, a'r tîm ystadau ehangach, i hyrwyddo amgylchedd dysgu diogel ac iach ar gyfer ein dysgwyr, staff ac ymwelwyr. Byddwch yn cynorthwyo gyda sicrhau bod y Coleg yn parhau i gydymffurfio â'r holl ofynion rheoleiddiol ac yn lleihau pob risg.

Byddwch yn chwarae rhan allweddol wrth gefnogi datblygiad a gweithrediad polisïau, gweithdrefnau a hyfforddiant yn ymwneud ag iechyd a diogelwch. Mae hyn yn cynnwys cynnal asesiadau risg, arolygiadau ac archwiliadau; cyflwyno sesiynau cynefino a hyfforddi; a sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth a safonau. Byddwch yn cynorthwyo gydag ymchwiliadau i ddigwyddiadau, parodrwydd mewn argyfwng, ac yn gweithredu fel pwynt cyswllt ar gyfer pryderon yn ymwneud ag iechyd a diogelwch. Mae cydweithio â staff, myfyrwyr ac asiantaethau allanol yn hanfodol, yn ogystal â chynnal dogfennaeth gywir a chyfrannu at welliant parhaus o ran diogelwch.

Yr hyn fydd ei angen arnochI fod yn llwyddiannus, bydd angen gradd mewn maes perthnasol (e.e. iechyd a diogelwch galwedigaethol neu iechyd yr amgylchedd). Mae tystysgrifau NEBOSH, IOSH, neu unrhyw dystysgrifau iechyd a diogelwch cyfatebol eraill yn ddymunol, ond nid yn hanfodol.

Er nad yw profiad blaenorol ym maes iechyd a diogelwch yn hanfodol ar gyfer y swydd, disgwylir i chi feddu ar wybodaeth a dealltwriaeth dda o ddeddfwriaeth a rheoliadau iechyd a diogelwch. Yn ogystal, bydd angen i chi fod yn gymwys wrth ddefnyddio amrywiaeth o systemau TG, taenlenni a chronfeydd data.

Bydd angen sgiliau dadansoddi a sgiliau ysgrifennu adroddiadau rhagorol arnoch, sylw cadarn i fanylion, ac ymagwedd ragweithiol at iechyd a diogelwch. Byddwch yn trin gwybodaeth gyfrinachol fel rhan o'r swydd, felly bydd cynnal cyfrinachedd llwyr a gallu gweithio gyda staff ar bob lefel yn hanfodol.

I gael mwy o wybodaeth, neu i drefnu cyfarfod anffurfiol, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Sylwch, os bydd nifer fawr o geisiadau yn dod i law, efallai y byddwn yn newid dyddiad cau'r swydd wag. Rydym yn eich annog i wneud cais cyn gynted â phosibl i osgoi unrhyw siom. Os oes gennych unrhyw ymholiadau ynglŷn â hyn, cysylltwch â Tom.braddock@colegsirgar.ac.uk.

Yr Iaith Gymraeg:
  • Llefaredd Cymraeg (Gwrando/Siarad) - Lefel 0/1
  • Llythrennedd Cymraeg (Ysgrifennu/Darllen) - Lefel 0/1
(Gweler disgrifiadau iaith manwl ynghlwym)

Mae croeso i bobl wneud cais am swyddi yn Gymraeg, ac ni fydd ceisiadau a wneir yn Gymraeg yn cael eu trin yn llai ffafriol na chais a wneir yn Saesneg.

Buddion
  • Byddwch yn cael 28 diwrnod o wyliau, ynghyd â gwyliau banc a phum diwrnod cau sef cyfanswm o 41 diwrnod o wyliau y flwyddyn. Hefyd byddwch yn cael 4 diwrnod ychwanegol ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.
  • Cynllun pensiwn hynod o hael gyda 20% o gyfraniadau cyflogwr.
  • Rhaglen dysgu a datblygu proffesiynol wobrwyedig.
  • Cynllun seiclo i'r gwaith
  • Maes parcio ceir am ddim ar y safle
  • Disgowntiau mewn siopau adwerthu ac ar-lein