MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £24,823 Codiad cyflog i ddod - £26,338 Codiad cyflog i ddod
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £24,823 Codiad cyflog i ddod - £26,338 Codiad cyflog i ddod
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Technegydd Masnachol Gwallt a Harddwch
Lleoliad: Iâl
Math o Gontract: Llawn Amser, Cyfnod Penodol (tan fis Rhagfyr 2025)
Cyflog: £26,189 - £27,840
Mae gennym ni gyfle cyffrous i ysbrydoli a chefnogi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol gwallt a harddwch. Mae hwn yn gyfle cyffrous i weithio mewn amgylchedd dysgu bywiog, gan gefnogi myfyrwyr a staff i ddarparu gwasanaethau trin gwallt a therapi harddwch o ansawdd uchel.
Rydym yn chwilio am Dechnegydd Gwallt a Harddwch angerddol a medrus i ymuno â ni fel Technegydd Gwallt a Harddwch Masnachol ar ein safleoedd Iâl a Glannau Dyfrdwy. Bydd hyn yn golygu gweithio 3 diwrnod yn Iâl a 2 ddiwrnod yng Nglannau Dyfrdwy.
Prif agweddau'r swydd hon yw darparu cymorth technegol ar gyfer gweithgareddau dysgu am wallt a harddwch mewn gweithdai'r cwricwlwm, salonau masnachol a lleoedd oddi ar ein safleoedd (lle bo hynny'n briodol). Mae'r technegwyr yn gyfrifol am sicrhau bod digon o ddeunyddiau dysgu, offer a chyfarpar ar gael ar gyfer y gweithgareddau dysgu Bydd y swydd yn cynnwys patrwm sifft hyblyg gan weithio 3 dydd Sadwrn gydag 1 dydd Sadwrn i ffwrdd bob 4 wythnos.
Gofynion Hanfodol
- Paratoi a chynnal a chadw deunyddiau dysgu, darnau o waith, offer a chyfarpar i'w defnyddio mewn amgylcheddau dysgu ymarferol e.e. gweithdai cwricwlwm, salonau masnachol a lleoliadau addas oddi ar y safle.
- Bod yn rhagweithiol wrth gadw'r gweithdai a'r storfeydd technegol yn daclus, yn enwedig o ran yr offer, y cyfarpar a'r cydrannau.
- Cymryd rhan mewn sicrhau amgylchedd iach a diogel ar gyfer lles cyffredinol y myfyrwyr ac ymwelwyr â'r coleg.
- Cynorthwyo gyda gosod, comisiynu, cynnal a chadw, a gwasanaethu offer peiriannau, peiriannau a chyfarpar y gweithdai.
- Rheoli, archebu a chadw cofnodion o stoc deunyddiau a ddefnyddir yn y gweithdy, cyfarpar ac adnoddau eraill y salon, gan ddefnyddio meddalwedd cronfa ddata canolog.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig