MANYLION
  • Lleoliad: Monmouth, Monmouthshire, NP25 3YT
  • Testun: Athro
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Misol
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 02 Mai, 2025 12:00 y.p

This job application date has now expired.

Athro/Athrawes Mathemateg

Ysgol Gyfun Trefynwy
Athro/Athrawes Mathemateg
Contract llawn-amser, parhaol
Yn dechrau 1 Medi 2025

Rydym yn falch iawn o’n hysgol gynhwysol ac uchelgeisiol, ac mae gennym ddisgwyliadau uchel tu hwnt ar gyfer pob un o’n myfyrwyr. Rydym yn ymfalchïo yn eu galluogi i dyfu ac i ffynnu. Er mwyn i hynny ddigwydd, mae angen i’n myfyrwyr wneud dau beth syml – gweithio’n galed a bod yn garedig. Mae ein myfyrwyr a’n staff yn ffynnu mewn cymuned lle mae cysondeb a’n harferion ynghyd ag adnabod pob myfyriwr yn dda a’u cefnogi i gyflawni eu potensial.

Mae gennym fudd adeilad ysgol gwych, sydd wedi ennill gwobrau, a gafodd ei gwblhau’n ddiweddar dan raglen Ysgolion 21ain Ganrif. Mae’n gyfleuster modern gwych sydd ag addysg yn greiddiol iddo. Mewn lleoliad yng nghanol Trefynwy, rydym yn gwasanaethu ein cymuned leol yn ogystal ag ardaloedd cyfagos yng Nghymru a hefyd yn Lloegr. Mae gennym tua 1,700 o fyfyrwyr a 200 o staff, ac mae mwy o alw nag o leoedd ar gael ym mhob grŵp blwyddyn.

Rydym yn hollol benderfynol i ddarparu safon rhagorol o addysg ar gyfer pob plentyn sy’n dod i’n hysgol, fel eu bod yn cael cyfle i arwain bywydau hapus a llwyddiannus. Mae ein hymagwedd at y Cwricwlwm i Gymru wedi ei seilio ar bwysigrwydd pynciau ac ar egwyddor gwybodaeth rymus. Mae ein gwaith ar hyn yn destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn i rannu ein harfer yn ehangach. Mae ein haddysgeg wedi ei seilio ar dystiolaeth ymchwil ar ddysgu ac ar sut i gynyddu cynnydd myfyrwyr i’r eithaf.

Rydym yn hollol gyfun ac yn darparu ar gyfer ystod eang o anghenion dysgu. Ar hyn o bryd mae 14% o boblogaeth yr ysgol ar y Gofrestr Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae gennym hefyd Ganolfan Adnoddau Arbenigol integredig, sydd hefyd yn destun astudiaeth achos ddiweddar gan Estyn am ei darpariaeth eithriadol o gryf. Daw myfyrwyr o ystod eang o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol a’r cyfartaledd treigl ar gyfer prydau ysgol am ddim yw 13.8%.

Croesawn geisiadau gan ymgeiswyr y mae eu nodweddion a gwerthoedd personol yn adlewyrchu’r rhai yn y fanyleb person, ac y mae eu profiadau hefyd yn eu rhoi mewn sefyllfa glir i gyflawni’r disgrifiad swydd. Caiff rhaglen gynefino lawn a dysgu proffesiynol ystyrlon eu cynnig i'r holl staff.

Byddwch yn ein cael yn grŵp o gydweithwyr cefnogol sy’n gweithio i ddarparu safon eithriadol o addysg ar gyfer yr holl fyfyrwyr yn ein gofal. Ymfalchïwn yn fawr yn yr hyn a wnawn, a rydym yn parhau i fod yn uchelgeisiol iawn am yr hyn y gallwn ei gyflawni gyda’n gilydd yn y dyfodol.
JOB REQUIREMENTS
Cysylltwch â: Mrs Laura Claypole mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk os hoffech fwy o wybodaeth.

Gellir lawrlwytho ffurflenni cais – nid ydym yn derbyn CVs. Dylid dychwelyd ffurflenni cais ar bapur at: Mrs Laura Claypole, Ysgol Gyfun Trefynwy, Hen Heol Dixton, Trefynwy NP25 3YT. Gellir anfon ceisiadau drwy e-bost at: mon.recruitment@monmouth.schoolsedu.org.uk

Dyddiad Cau: Dydd Gwener 2 Mai am 12 canol-dydd
Dyddiad Cyfeweliadau: Dydd lau 8 Mai

Mae Diogelu Plant ac Oedolion yn flaenoriaethau allweddol i’r Ysgol a’r Cyngor. Anelwn gefnogi plant ac oedolion mewn risg i fod mor ddiogel ag y gallant fod ac i gyflawni eu potensial. Rydych yn gyfrifol am chwarae eich rhan yn llesiant, diogelwch ac amddiffyn plant ac oedolion mewn risg. Bydd gennych gyfrifoldeb am gymryd rhan mewn hyfforddiant i’r lefel priodol o ddiogelu a dyletswydd i gyflawni eich cyfrifoldebau personol am ddiogelu.

Cafodd penodiad i’r swydd hon ei eithrio o’r Ddeddf Adsefydlu Troseddwyr ac mae’n amodol ar Wiriad Datgeliad Estynedig. Rhaid i ymgeiswyr fod yn gwybod am chydymffurfio gyda pholisïau a gweithdrefnau’n ymwneud ag amddiffyn a diogelu plant, iechyd a diogelwch, cyfrinachedd a diogelu data, gan hysbysu person priodol am bob mater o gonsyrn.

Mae Cyngor Sir Fynwy yn gyflogwr cyfle cyfartal ac mae’n croesawu ceisiadau gan bob adran o’r gymuned. Croesewir ceisiadau yn Gymraeg neu Saesneg, a chânt eu trin yn gyfartal.