MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Coleg Cambria,
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £25,943 - £30,044
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: £25,943 - £30,044
Disgrifiad Swydd a Manyleb PersonColeg Cambria: Cyflwyniad
Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.
Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.
Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriado
Crynodeb o'r Swydd
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...
Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr mewn Cyrsiau'r Tir - Ymarferol
Lleoliad: Llysfasi
Math o Gontract: Llawn Amser, Parhaol
Cyflog: £25,943 - £30,044
Mae gennym ni swydd wag ar hyn o bryd ar gyfer Hyfforddwr Arddangoswr mewn Cyrsiau'r Tir. Fel Hyfforddwr Arddangoswr yng Ngholeg Cambria Llysfasi, bydd yr unigolyn yn darparu addysg ymarferol cyrsiau'r tir, gan gyflwyno gwybodaeth am yrru tractor, peiriannau amaeth/coedwigaeth, sgiliau gweithdy a gwaith ystadau. Mae cydweithio â staff academaidd yn hanfodol er mwyn sicrhau bod arferion ymarferol y tir yn cyd-fynd â'r gwaith damcaniaethol sy'n cael eu cyflwyno yn yr ystafell ddosbarth. Mae'r swydd hefyd yn cynnwys asesu cymhwysiad myfyrwyr o sgiliau mewn senarios byd go iawn ar y tir.
Yn ogystal â hyn, mae'r swydd yn cynnwys cyflwyniad i egwyddorion peirianneg amaethyddol, lle bydd yr arddangoswr yn arwain myfyrwyr drwy hanfodion peiriannau a ddefnyddir ym meysydd coedwigaeth ac amaethyddiaeth. Maer ffocws deuol hwn yn gofyn am ddealltwriaeth gyfoes o safonau; r diwydiant ac ymrwymiad i hyrwyddo stiwardiaeth amgylcheddol ochr yn ochr ag effeithlonrwydd technolegol. Felly mae swydd yr arddangoswr yn gyfuniad o addysgu arferion coedwigaeth graidd ac integreiddio cysyniadau peirianneg amaethyddol hanfodol, gan baratoi myfyrwyr ar gyfer natur amlochrog gyrfaoedd rheoli tir gwledig.
Gofynion Hanfodol
• Mae'n rhaid bod gennych chi gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol
neu gymhwyster cyfwerth
• Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y
byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
• Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol
• Gallu cyflwyno sesiynau ymarferol effeithiol o ansawdd uchel yn hyderus sy'n gwella dysgu i'n
myfyrwyr.
Mae sgiliau Cymraeg yn Hanfodol ar gyfer y swydd hon
Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.
Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'n gwaith. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Nid ydym yn trin cais a gyflwynwyd yn Gymraeg yn llai ffafriol na chais a chyflwynwyd yn Saesneg.
Bydd ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.
Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.
Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grwp staff amrywiol fel rhan o hynny.
Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Byddai gofyn i chi hefyd gofrestru gyda'r Cyngor Gweithlu Addysg fel Athro Addysg Bellach.
Fel arfer mae swyddi'n cael eu hysbysebu gydag ystod cyflog. Os cewch gynnig swydd yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried er mwyn pennu eich cyflog cychwynnol.
Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.
Buddion
Cynllun(iau) pensiwn ardderchog
Hawl gwyliau blynyddol hael
Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy
Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg
Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol
Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd
Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog
Parcio am ddim ar bob safle
Cynllun Beicio
Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch
Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai
Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig