MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,943 - £30,044
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Hyfforddwr Arddangoswr - Peirianneg Uwch CC/2830

Coleg Cambria

Cyflog: £25,943 - £30,044

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Hyfforddwr Arddangoswr

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Math o Gontract: Llawn Amser, Parhaol

Cyflog: £25,943 - £30,044

Mae Coleg Cambria yn chwilio am Hyfforddwr Arddangoswr angerddol a medrus mewn Peirianneg Uwch i ymuno â'n tîm ar safle Glannau Dyfrdwy. Yn y swydd hon, byddwch chi'n gyfrifol am gyflwyno cyfarwyddiadau ymarferol wedi'u hamserlennu ac arddangosiadau i grwpiau myfyrwyr, gan sicrhau eu bod yn datblygu sgiliau a gwybodaeth hanfodol mewn amrywiaeth o bynciau Peirianneg (h.y. Electroneg, Cynnal a Chadw, ac ati...). Byddwch chi'n gweithio'n agos gyda chydlynwyr cwrs a darlithwyr i greu amserlen strwythuredig o weithgareddau a chynorthwyo myfyrwyr i gyflawni eu nodau dysgu. Fel rhan o'ch cyfrifoldebau allweddol byddwch chi'n monitro cynnydd myfyrwyr, asesu eu cymhwysedd mewn tasgau ymarferol a chadw cofnodion cywir.

Fel rhan o'n hymrwymiad i lwyddiant myfyrwyr, byddwch chi'n cynorthwyo gydag adolygiadau myfyrwyr, yn helpu i gynhyrchu canlyniadau cwrs, ac yn cyfrannu at greu amgylchedd dysgu gofalgar a chefnogol. Mae cynnal proffesiynoldeb, sicrhau disgyblaeth myfyrwyr, a hyrwyddo presenoldeb a phrydlondeb yn agweddau hanfodol ar y swydd. Yn ogystal, byddwch chi'n cymryd rhan weithredol mewn gweithgareddau datblygu staff ac yn chwilio'n barhaus am gyfleoedd ar gyfer twf personol a phroffesiynol.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cynnal polisïau'r Coleg ar Gyfle Cyfartal, Iechyd a Diogelwch, ac Ansawdd, gan gefnogi cenhadaeth gyffredinol y Coleg. Byddwch chi'n aelod rhagweithiol o'r tîm, yn barod i ymgymryd ag unrhyw ddyletswyddau ychwanegol y mae eich Rheolwr Atebol yn gofyn i chi ei eu gwneud er mwyn helpu i'r adran weithredu'n effeithlon.

Gofynion Hanfodol
  • Mae'n rhaid bod gennych chi gymhwyster Lefel 3 o leiaf mewn pwnc proffesiynol perthnasol neu gymhwyster cyfwerth
  • Dangos eich bod yn deall y datblygiadau cyfredol yn eich maes arbenigol eich hun a sut y byddwch chi'n sicrhau bod gennych chi'r wybodaeth ddiweddaraf am y datblygiadau hyn
  • Profiad diwydiannol diweddar yn y maes arbenigol perthnasol

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae hyrwyddo'r Gymraeg yn rhan hanfodol o'r gwaith a wnawn. Mae croeso i ymgeiswyr gyflwyno cais yn Gymraeg. Ni fydd cais sy'n cael ei gyflwyno'r Gymraeg yn cael ei drin yn llai ffafriol na chais a gyflwynwyd yn Saesneg.

Mae ffurflenni cais, deunydd esboniadol, gwybodaeth am y broses gyfweld a dulliau asesu a disgrifiadau swydd i gyd ar gael yn Gymraeg.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn ni'n gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch chi'n gwneud cais amdani ac os ydych chi'n llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Fel arfer caiff swyddi eu hysbysebu gydag ystod gyflog. Os ydych yn cael cynnig swydd i chi yn y coleg, bydd profiad perthnasol yn cael ei ystyried i benderfynu ar eich cyflog cychwynnol.

Sylwch fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn cael nifer fawr o geisiadau. Byddwn ni'n argymell eich bod chi'n cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai

Absenoldeb mamolaeth, mabwysiadu a thadolaeth estynedig