MANYLION
  • Lleoliad: Coleg Cambria - Llaneurgain,
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £25,437 - £26,077
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Cyllid (Cyfriflyfr Prynu) CC/2843

Coleg Cambria

Cyflog: £25,437 - £26,077

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Coleg Cambria: Cyflwyniad

Yng Ngholeg Cambria, ein nod yw bod yn sefydliad addysg eithriadol.

Rydym yn rhoi croeso cynnes i holl fyfyrwyr a staff i wneud Coleg Cambria yn lle rydych chi eisiau bod yn rhan ohono. Er mwyn sicrhau bod ein myfyrwyr yn cael y profiad a'r canlyniadau gorau y gallant eu cael, rydym yn sicrhau fod y bobl rydym yn eu cyflogi yn hapus. Rydym yn meithrin amgylchedd gwaith cadarnhaol, gweithlu sy'n ehangu ac yn gwella'n gyson, ac yn cynnig y cyfle i chi herio'ch hun. Yn ogystal â hynny, mae gennym ystod eang o fudd-daliadau i sicrhau fod ein gweithwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, gan gynnwys gwyliau blynyddol hael, pecyn pensiwn gwych, ac aelodaeth â disgownt i'n campfeydd, ein salonau a'n bwytai hyfforddi proffesiynol.

Mae ein 5 safle, sydd wedi'u lleoli mewn ardal odidog yng Ngogledd Cymru, yn ehangu ac yn datblygu'n gyson. Gyda pherthnasoedd cryf gyda nifer o gwmnïau yn yr ardal, rydym yn helpu rhoi'r dechrau gorau i'n myfyrwyr i'w gyrfaoedd ac yn helpu'r economi leol i ffynnu. Mae gan Gymru ddiwylliant cadarn a balch, ac rydym yn parhau i ddatblygu'r gwerthoedd pwysig hynny trwy ymrwymo i hyrwyddo'r Gymraeg. Rydym yn falch iawn o'r hyn rydym wedi'i adeiladu yma ac rydym bellach yn chwilio am rywun i wella ein gweithlu sydd eisoes yn eithriadol.

Crynodeb o'r Swydd

Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Swyddog Cyllid (Cyfriflyfr Prynu)

Lleoliad: Llaneurgain

Math o Gontract: Parhaol, Rhan Amser 16 awr yr wythnos (0.4324 FTE)

Cyflog: £25,437- £26,077 (Pro Rata £10,998.95-£11,275.69)

Rydyn ni'n chwilio am Swyddog Cyllid - Cyfriflyfr Prynu i ymuno â'n tîm Cyllid ar ein safle yn

Llaneurgain. Fel swyddog Cyllid byddwch chi'n gyfrifol am sicrhau bod yr anfonebau Prynu yn cael eu

prosesu a'u talu mewn modd prydlon ac effeithlon.

Byddwch chi'n monitro cofnodion ariannol i sicrhau cydymffurfiaeth â rheoliadau a gweithdrefnau

ariannol. Byddwch chi'n cysoni ac yn cynhyrchu datganiadau ariannol ac adroddiadau priodol a

chysylltu â staff y coleg a phartïon allanol fel bo'r angen. Byddwch chi'n cynorthwyo gyda llunio

gweithdrefnau a systemau ariannol ac yn ymgymryd â dyletswyddau gweinyddol cyffredinol y swyddfa

i gynorthwyo gyda'r swyddogaeth Cyllid.

Gofynion Hanfodol

• Graddau TGAU A-C mewn Saesneg a Mathemateg.

• Cymhwyster NVQ Lefel 3 o leiaf, neu gymhwyster cyfwerth, mewn maes arbenigedd

proffesiynol.

• Profiad gwaith blaenorol o weithio o fewn adran gyllid prysur.

• Profiad o gydlynu gweithdrefnau neu brosesau mewn adran gyllid.

• Gallu defnyddio pecynnau TG yn fedrus - gallu dod i arfer gyda defnyddio meddalwedd TG a

phecynnau Cyllid newydd yn rhwydd. Gallu defnyddio'r Rhyngrwyd a Mewnrwydi.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr 'Hyderus o ran Anableddau'.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o'n gwaith, ac mae'r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion y nodwyd eu bod yn 'agored i niwed' yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo lles yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd. Yn dibynnu ar y swydd y byddwch yn gwneud cais amdani ac os ydych yn llwyddiannus, efallai bydd gofyn i chi gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg hefyd.

Sylwer fod Coleg Cambria yn cadw'r hawl i gau'r rhestr ymgeiswyr yn gynnar ar gyfer unrhyw swydd pe byddwn yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddwn yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted â phosibl os hoffech gael eich ystyried ar gyfer y swydd hon.

Buddion

Cynllun(iau) pensiwn ardderchog

Hawl gwyliau blynyddol hael

Darpariaeth feithrin ar ein safle yng Nglannau Dyfrdwy

Gostyngiadau ar ystod o gyrsiau gyda'r nos y coleg

Mynediad i ystod eang o gyrsiau e-ddysgu a datblygiad proffesiynol

Disgownt ar aelodaeth ystafell ffitrwydd

Cyfleusterau chwaraeon a ffitrwydd ardderchog

Parcio am ddim ar bob safle

Cynllun Beicio

Cyfraddau gostyngol ar gyfer trin gwallt a thriniaethau harddwch

Cyfraddau gostyngol yn ein bwytai