MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Waldo Williams

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Ydych chi'n addysgwr brwdfrydig ac ymroddedig sydd am gael effaith barhaol mewn ysgol fywiog a chynhwysol?

Mae Ysgol Gynradd Waldo Williams yn chwilio am athro dosbarth angerddol ac arloesol i ymuno â'n tîm ar sail barhaol.

Yn Ysgol Waldo Williams, credwn mewn meithrin potensial pob plentyn mewn amgylchedd cefnogol ac ysgogol. Rydym yn falch o'n cydberthynasau cryf â disgyblion, teuluoedd, a'r gymuned leol, ac rydym yn chwilio am athro sy'n rhannu ein gwerthoedd a'n hymrwymiad i ragoriaeth ym myd addysg.

Rydym yn chwilio am athro sydd:

  • Yn frwd dros ddarparu profiadau dysgu cynhwysol a difyr o ansawdd uchel.
  • Yn ymrwymedig i godi safonau a helpu pob plentyn i gyrraedd ei lawn botensial.
  • Yn gallu cyflwyno gwersi creadigol a difyr sy'n cyd-fynd â Chwricwlwm i Gymru, gan integreiddio llythrennedd, rhifedd, a sgiliau digidol ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.
  • Yn arloesol, yn hyblyg, ac yn ymatebol i anghenion amrywiol disgyblion.
  • Yn meddu ar sgiliau gwaith tîm a chyfathrebu rhagorol, gan weithio'n gadarnhaol gyda staff, rhieni, a'r gymuned ehangach.
  • Yn barod i gyfrannu at weithgareddau allgyrsiol sy'n cyfoethogi bywyd yr ysgol.
  • Â diddordeb mewn datblygu addysg awyr agored, sef maes yr ydym yn awyddus i'w ehangu.
  • Yn ymrwymedig i ddatblygiad proffesiynol parhaus a dysgu parhaus.

Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:

  • Cymuned ysgol groesawgar a chefnogol
  • Corff llywodraethu cryf ac ymrwymedig
  • Amgylchedd addysgu blaengar ac ysbrydoledig
  • Cyfleoedd datblygiad proffesiynol parhaus
  • Dysgwyr brwdfrydig, llawn cymhelliant a theuluoedd cefnogol.

Os ydych chi'n addysgwr uchelgeisiol, ymroddedig, ac angerddol sy'n chwilio am ysgol lle gallwch chi wneud gwahaniaeth go iawn, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych!

Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.