MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Athro/Athrawes - Ysgol Gynradd Waldo Williams (Cyfnod Penodol)
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
Mae hon yn swydd cyfnod penodol (32.5 awr yr wythnos) hyd at 30 Ebrill 2026, yn cyflenwi ar gyfer cyfnod sabothol athro.Mae Ysgol Gynradd Waldo Williams yn ysgol fywiog a chynhwysol ag ymrwymiad cryf i feithrin potensial pob plentyn. Rydym yn ymfalchïo mewn creu amgylchedd cadarnhaol a gofalgar lle gosodir disgwyliadau uchel er mwyn rhoi'r cyfle gorau posibl i'n disgyblion i lwyddo. Rydym yn gwerthfawrogi'r cydberthynasau rhagorol yr ydym wedi'u meithrin â phlant, rhieni, a'r gymuned leol, ac mae'n staff ymroddedig yn chwarae rhan ganolog wrth sicrhau bod y cysylltiadau hyn yn parhau'n gadarnhaol a chynhyrchiol.
Mae ein corff llywodraethu yn awyddus i benodi athro dosbarth eithriadol ac arloesol sy'n rhannu ein hethos ac sy'n frwdfrydig dros gofleidio egwyddorion Cwricwlwm i Gymru. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn ymuno â'n tîm proffesiynol sy'n gyfeillgar, yn brofiadol, ac yn ymroddedig.
Rydym yn chwilio am unigolyn sydd:
- Yn ymrwymo i ddarparu addysg a gofal cynhwysol o ansawdd uchel sy'n cyffroi ac yn ennyn diddordeb pob disgybl.
- Yn ymroddedig i sbarduno cynnydd a chodi safonau ar draws pob maes dysgu.
- Yn fedrus wrth gynllunio a chyflwyno gwersi difyr sy'n adlewyrchu pedwar diben y cwricwlwm, gan feithrin llythrennedd, rhifedd, a sgiliau digidol o ansawdd uchel ar draws yr holl Feysydd Dysgu a Phrofiad.
- Yn frwdfrydig, yn llawn cymhelliant, ac yn arloesol yn ei ymagwedd at addysgu a dysgu.
- Yn hyblyg, yn deg, ac yn ymatebol i anghenion datblygiadol plant.
- Yn gyfathrebwr cryf sy'n ffynnu fel rhan o dîm cydweithredol.
- Yn gallu meithrin a chynnal cydberthynasau cadarnhaol â'r holl randdeiliaid.
- Yn barod i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol i gyfoethogi cymuned yr ysgol.
- Â diddordeb mewn datblygu addysg awyr agored, maes yr ydym yn awyddus i'w ehangu.
- Yn ymrwymo i'w ddatblygiad proffesiynol ei hun a dysgu parhaus.
Yn gyfnewid, gallwn gynnig canlynol i chi:
- Cefnogaeth a chyfleoedd parhaus ar gyfer datblygiad proffesiynol
- Corff llywodraethu cefnogol ac ymrwymedig
- Amgylchedd dynamig, ysgogol, a heriol i weithio ynddo.
- Y cyfle i weithio gyda phlant chwilfrydig a brwdfrydig a theuluoedd cefnogol.
Os ydych chi'n frwd dros wneud gwahaniaeth ac yn meddu ar y rhinweddau rydym yn chwilio amdanynt, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi.
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg ddim yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.