MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Bridgend, CF31 4WB
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Not Specified
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £20,843 - £21,530 y flwyddyn
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd - Cynhwysiant/Y Bont - Dros Dro
Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr
Cyflog: £20,843 - £21,530 y flwyddyn
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd - Cynhwysiant/Y Bont - Dros DroDisgrifiad swydd
32.5 awr yr wythnos
Dros dro hyd at 31 Mawrth 2026
Mae Uned Cyfeirio Disgyblion Portffolio Darpariaeth Amgen y Bont yn ddarpariaeth arbenigol i ddisgyblion oedran cynradd ac uwchradd sydd ag anawsterau emosiynol, cymdeithasol ac ymddygiadol. Mae'r Bont yn ceisio penodi Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd i weithio ar draws y portffolio PRU. Bydd yn ofynnol i ddeiliad y swydd roi cymorth i ddisgyblion ag anghenion Anawsterau Emosiynol, Cymdeithasol ac Ymddygiadol (ESBD) a'u teuluoedd.
Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid trwy gyfrwng y Gymraeg yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn gyfrifoldeb craidd holl weithwyr y cyngor.
Mae gwiriad cofnodion troseddol Rhestr Gwaharddedig Plant Manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn ofynnol ar gyfer y swydd hon.
Dyddiad Cau: 23 Ebrill 2025
Dyddiad llunio rhestr fer: 01 Mai 2025
Dyddiad Cyfweld: 09 Mai 2025
Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr
Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person