MANYLION
  • Lleoliad: Bridgend, Bridgend, CF31 3DF
  • Testun: Addysg Bellach
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £24,585 - £26,993
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol - Cymraeg yn Hanfodol (Ysgrifenedig ac ar lafar)

Swyddog Cyfryngau Cymdeithasol a Marchnata Digidol - Cymraeg yn Hanfodol (Ysgrifenedig ac ar lafar)

Coleg Penybont
Diben y Swydd: Rheoli cynnwys digidol a chymdeithasol ar gyfer y coleg a'n his-frandiau, gan sicrhau bod allbynnau digidol yn cyd-fynd ac yn gyson â'n strategaeth a brand, tra sicrhau ein bod yn cydymffurfio bob amser â gofynion o dan safonau'r Gymraeg.

Os ydych chi'n giamstar gyda chyfryngau cymdeithasol ac yn deall sut y gellir defnyddio cynnwys amlgyfrwng wrth farchnata, yna efallai mai'r rôl hon i chi!

Am wybodaeth bellach, edrychwch ar y pecyn gwybodaeth swydd.

Mae Coleg Penybont yn cydnabod ei gyfrifoldeb dros sicrhau diogelwch a lles pob myfyriwr. Rydym yn defnyddio proses lem i wirio addasrwydd staff a gwirfoddolwyr i weithio â phlant ac oedolion bregus. Mae’r swydd uchod yn amodol ar ddatgeliad DBS Estynedig / boddhaol ar gyfer gweithlu plant ac oedolion.

Rydym wrthi'n ceisio gwella cynrychiolaeth o bob rhan o'r gymuned a hyrwyddo cyfle cyfartal. Rydym yn croesawu ceisiadau gan bawb, gan gynnwys pobl o wahanol gefndiroedd a chymunedau, ac o wahanol oedrannau.

Rydym yn falch o fod yn Arweinydd Anabledd Hyderus ac rydym yn gwarantu cyfweld ag unrhyw un ag anabledd os yw eu cais yn cwrdd â'r meini prawf hanfodol ar gyfer y swydd, a'u hystyried ar eu galluoedd. Gallwn hefyd gynnig addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio.

Noder gall fod gofyniad am gyfweliad neu asesiad ail gam
JOB REQUIREMENTS
Bydd gennych brofiad o ysgrifennu a chreu cynnwys dwyieithog ar gyfer cynulleidfaoedd ar-lein. Bydd gennych y wybodaeth ddiweddaraf am dueddiadau technolegol cyfredol a sianelau newydd, a phrofiad o adeiladu cynnwys difyr ac amrywiol ar draws nifer o sianeli cyfryngau cymdeithasol megis Facebook, Twitter, LinkedIn, Instagram a wordpress. Byddwch yn meddu ar radd neu gymhwyster cyfatebol mewn cyfathrebu/marchnata digidol ac mae gennych sgiliau cyfathrebu ardderchog ar lafar ac ysgrifenedig drwy gyfrwng y Gymraeg. Er y gall y cyfryngau cymdeithasol fod yn rôl unigryw, bydd yn cael ei chyfuno â chyfrifoldebau marchnata a chyfathrebu eraill.