MANYLION
  • Lleoliad: Carmarthenshire,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro/Athrawes - Ysgol Brynsaron (Bl 3,4,5,a 6)

Cyngor Sir Caerfyrddin

Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)

Rydym yn mabwysiadu dull 'recriwtio dienw' wrth lunio'r rhestr fer. Ni fydd rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth bersonol, gan gynnwys eich enw a'ch manylion cyswllt, hyd nes y bydd penderfyniad wedi'i wneud ynghylch y rhestr fer.

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio, cadw a datblygu gweithlu sy'n adlewyrchu'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu. Mae rhannu eich data monitro cydraddoldeb yn ein galluogi i asesu effaith ein polisïau a'n harferion recriwtio a chyflogaeth ac yn rhoi cyfle i ni eu gwella lle bo modd. Nid yw rheolwyr recriwtio yn cael mynediad at wybodaeth monitro cydraddoldeb ar unrhyw adeg.

Ynglŷn â'r swydd wag

Cyfeirnod y Swydd Wag: 1569

Sefydliad: Ysgolion

Adran: Ysgol Gynradd Brynsaron

Nifer y swyddi gwag: 1

Math o gontract: Dros Dro/Secondiad - Amser Llawn

Dyddiad gorffen y contract: 31 Awst 2026

Lleoliad: Sir Gaerfyrddin

Gradd: Athrawon Ysgol

Cyflog: £32,433 - £49,944 (MPR2 - UPR3)

Os yw'n rhan-amser a/neu yn ystod y tymor, bydd y cyflog llawn amser a ddyfynnir (yn seiliedig ar 37 awr) ar sail pro rata yn unol â hynny

Cyfradd yr awr: £24.72 - £30.04

Oriau Contract:

Dewch i ymuno â'n tîm Mae'r Pennaeth a Llywodraethwyr Ysgol Brynsaron yn dymuno penodi athro ysbrydoledig ac effeithiol iawn ar gyfer dosbarth o ddisgyblion Blwyddyn 3, 4, 5 a 6. Rydym yn ysgol fywiog ag hapus, lle mae darparu amgylchedd diogel a gofalgar yn flaenoriaeth. Mae Ysgol Brynsaron yn Ysgol unigryw sy'n hyrwyddo'n llwyddiannus ymwybyddiaeth gref a balchder mawr yn ein hardal a'n cymuned.Rydym yn chwilio am ymarferwr dosbarth rhagorol sydd âg angerdd dros ddysgu plant ac sy'n ymdrechu i gyflawni safonau uchaf posib. Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhan o staff uchelgeisiol a chynaliadwy ac yn gallu datblygu perthynas waith gryf gyda disgyblion, staff a rhieni. Byddant yn cyfrannu at y diwylliant o weithio fel tîm, sy'n nodwedd gryf o'r ysgol.Bydd y ymgeisydd llwyddiannus yn rywun sy'n cofleidio athroniaethau'r Cwricwlwm ar gyfer Cymru yn greadigol ac sy'n barod i gyfrannu at fywyd cyfan yr ysgol.Mae'r gallu i siarad, ysgrifennu ac addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.Rydym yn croesawu ceisiadau gan athrawon newydd gymwys ac athrawon profiadol.Croeso i chi gysylltu gyda'r Pennaeth, Mr Rhys Davies am sgwrs anffurfiol: 01559 370575 neu daviesr1852@hwbcymru.net

Disgrifiad Swydd: 006255.pdf - 153KB ~~EFORM_FILE_NEW_WINDOW~~

Dyddiad disgwyliedig y cyfweliad: 9 Mai 2025

Lefel DBS: Bydd gwiriad manwl gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd gan Wirio'r Rhestr Wahardd yn ofynnol ar gyfer y swydd hon. Mae'n drosedd gwneud cais am y swydd os yw'r ymgeisydd wedi'i wahardd rhag cymryd rhan mewn gweithgareddau a reoleiddir sy'n berthnasol i blant neu oedolion sydd mewn perygl.

Lefel Sgiliau Cymraeg - Siarad: Lefel 5 - Bydd angen ichi allu cyfathrebu'n rhugl yn y Gymraeg. Gellir darparu cymorth rhesymol ar ôl penodi i gyrraedd y lefel hon.

Dyddiad Cau: 25/04/2025, 23:55

Y Buddion

Rydym yn cynnig pecyn buddion ardderchog, gan gynnwys:
  • Cyflog cystadleuol
  • Cofrestru'n awtomatig i'r Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
  • Hawl i wyliau blynyddol hael gyda'r opsiwn o brynu gwyliau blynyddol ychwanegol
  • Mynediad at gymorth iechyd a llesiant i staff
  • Datblygiad personol a dilyniant gyrfa
  • Cynlluniau disgownt staff a buddion eraill e.e., cynllun beicio i'r gwaith
  • Gweithio hyblyg a pholisïau sy'n ystyriol o deuluoedd

Gwybodaeth Ychwanegol

Rydym wedi ymrwymo i recriwtio diogel a theg, diogelu ac amddiffyn y rhai yr ydym yn gofalu amdanynt ac yn eu gwasanaethu. Rydym yn sicrhau bod ein holl staff yn cael eu fetio, eu dethol, eu hyfforddi a'u goruchwylio'n deg ac i safon uchel fel y gallant ddarparu gofal diogel, effeithiol a thosturiol. ">Nodwch fod rhwymedigaeth gyfreithiol arnom i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth arall addas os yw eu swyddi mewn perygl; rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni'r meini prawf hanfodol ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cofrestr adleoli.

Cymhwysedd: Gofynnir i chi am eich cenedligrwydd ac a oes gennych hawl gyfreithiol i weithio yn y Deyrnas Unedig. Gwneir hyn er mwyn cael gwybod a ydych yn gymwys i wneud cais am y swydd wag hon. Mae hyn yn ofynnol ar gyfer gweithio yn y Cyngor neu mewn sefydliadau partner: https://www.gov.uk/prove-right-to-work . Nodwch: Os nad ydych yn bodloni'r meini prawf cymhwysedd, ni fydd eich cais yn symud ymlaen. Os daw'n amlwg yn ddiweddarach yn y broses nad ydych yn gymwys i wneud cais, efallai y bydd eich cais neu eich cynnig yn cael ei dynnu'n ôl.

Sut i wneud cais: Rhaid i bob cais am y swydd wag hon gael ei wneud drwy ein system ymgeisio ar-lein. Os oes gennych nam sy'n eich atal rhag gwneud cais ar-lein, e-bostiwch: swyddi@sirgar.gov.uk neu ffoniwch 01267 234567 a gofynnwch am 'Recriwtio' i drafod trefniadau eraill i'ch helpu yn y broses.

Gweler y canllawiau 'Sut rydym yn recriwtio' ar y Dudalen Gyrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth am y broses recriwtio.