MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 06 Ebrill, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Arweinydd Clwb Brecwast (Ysgol Golwg Pen Y Fan)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 5 Pwynt 7 i Bwynt 9 £25,584 i £26,409 y flwyddyn ar gyfartaledd £13.26 i £13.68 yr awr

Arweinydd Clwb Brecwast (Ysgol Golwg Pen Y Fan)
Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
O dan gyfarwyddyd y Pennaeth neu aelod arall o staff uwch, cydlynu'r gwaith o redeg y Clwb bob dydd, a bod yn gyfrifol am hyn, gan sicrhau bod gofal plant o ansawdd uchel yn cael ei ddarparu.
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael cryn effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Mae'r swydd yn trefnu rotâu, yn gwirio gwaith, yn cyfarwyddo neu'n hyfforddi nifer bychan o staff.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd am adnoddau ariannol, gan gynnwys ymdrin weithiau â symiau bach o arian/sieciau.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Mae gan y swydd rywfaint o gyfrifoldeb
uniongyrchol am adnoddau ffisegol, gan gynnwys cynnal a chadw
adnoddau/deunyddiau/offer a thrin/prosesu gwybodaeth mewn modd gofalus, cywir, cyfrinachol a diogel.

Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS