MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Dros dro
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Prif Raddfa Broffesiynol
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Athro / Athrawes (Ysgol Glantwymyn)

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Prif Raddfa Broffesiynol

Athro / Athrawes (Ysgol Glantwymyn)
Swydd-ddisgrifiad
Welsh Language Skills are essential for this position
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

ATHRO/ATHRAWES
29 awr yr wythnos
Yn eisiau: ar gyfer Medi 1af 2025 - Awst 31ain 2026
Croesawir ceisiadau gan ANG
Mae llywodraethwyr yr ysgol lwyddiannus hon yn awyddus i benodi athro/athrawes egnïol a brwdfrydig gyda chymwysterau priodol i addysgu dosbarth yn Ysgol Glantwymyn. Dylai'r ymgeiswyr fod a'r gallu i arwain ac ysbrydoli plant i gyrraedd eu llawn botensial. Mae'r gallu i addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg yn hanfodol.
Dyma gyfle cyffrous am ddatblygiad proffesiynol ac i fod yn ynghlwm â'r ysgolion gynradd gyntaf i'w ffedereiddio ym Mhowys. Bydd gofyn i chi weithio dan gyfarwyddyd pennaeth y ffederasiwn a'r uwch dîm rheoli.
Rydyn ni'n chwilio am athro/athrawes sy'n:
• ymarferydd ardderchog yn yr ystafell ddosbarth sydd â gwybodaeth dda o addysgu a ynghyd dealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru.
• meddu ar ddisgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
• gweithio'n dda fel rhan o dîm
• yn angerddol ynghylch gwneud gwahaniaeth i'r plentyn "cyflawn"
• yn barod i ddangos ymroddiad i fywyd ehangach yr ysgol a gweithgareddau all-gwricwlaidd
Gallwn ni roi'r canlynol i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu sy'n ofalgar ac yn llawn adnoddau
• Partneriaeth dda â rhanddeiliaid
I drefnu ymweliad â'r ysgol, cysylltwch â'r Pennaeth, Mrs Bethan G Jones 01650 511394
Mae pecynnau cais ar gael gan: Y Tîm Recriwtio, Neuadd Sir Powys, Llandrindod, LD1 5LG, 01597 826409 neu jobapplications@powys.gov.uk
Dychwelir y ffurflenni cais i'r awdurdod erbyn y diwrnod cau: Dydd Mercher 30 Ebrill 2025
(This is an advertisement for a Key Stage 2 teacher at Ysgol Glantwymyn who are part of a Ffederation of three schools, for which the ability to teach through the medium of Welsh is essential).