MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 06 Ebrill, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
Cynorthwyydd Clwb Ar Ôl Ysgol (Ysgol Golwg Pen Y Fan)Swydd-ddisgrifiad
Am y rôl:
Fel rhan o dîm, goruchwylio'r plant a sicrhau eu diogelwch a'u lles a darparu
gofal priodol iddynt yn ystod amseroedd y clwb o dan gyfarwyddyd Arweinydd y Clwb Ar Ôl Ysgol.
Bydd eich cyfrifoldebau'n cynnwys:
Cyfrifoldeb am eraill: Mae'r swydd yn cael peth effaith ar les unigolion neu grwpiau (h.y. corfforol, meddyliol, cymdeithasol, iechyd a diogelwch).
Cyfrifoldeb am staff: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am
oruchwylio staff eraill er gall fod disgwyl i ddeiliad y swydd arddangos tasgau neu gynghori/arwain cyflogeion newydd, pobl ar brofiad gwaith neu dan hyfforddiant.
Cyfrifoldeb am adnoddau ariannol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ariannol heblaw ymdrin weithiau â symiau bach o arian, prosesu sieciau, anfonebau etc.
Cyfrifoldeb am adnoddau ffisegol: Prin yw cyfrifoldeb uniongyrchol y swydd (os o gwbl) am adnoddau ffisegol, heblaw trin offer a'i ddefnyddio'n ofalus (e.e. cyfrifiadur).
Mae gan y swydd hon ofyniad am Wiriad Manylach y DBS