MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Lleoliad: Llanrwst,
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £2,557 - £2,597 Y flwyddyn (G01) Llawn Amser: £20,258 - £24,027)
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 03 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Hyfforddwr dan Hyfforddiant Addysg Awyr Agored
Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Cyflog: £2,557 - £2,597 Y flwyddyn (G01) Llawn Amser: £20,258 - £24,027)
Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Awyr Agored Nant BH a Phentrellyncymer- A ydych dros 18?
- Diddordeb mewn gyrfa mewn Addysg Awyr Agored ?
- Mwynhau'r sialens o weithio gyda phobl ifanc?
- Diddordeb mewn un neu fwy gweithgaredd addysg awyr agored ?
Byddwn yn sicrhau y byddwch yn cael hyfforddiant i safon corff llywodraethol cenedlaethol a / neu asesiad yn y gweithgareddau perthnasol, ynghyd â chanllawiau i wella eich sgiliau. Ar ddiwedd y flwyddyn byddwch wedi ennill profiad gwerthfawr mewn addysg awyr agored a gwybodaeth dda am leoedd yng ngogledd Cymru ac yn barod i symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa.
Yn ystod y flwyddyn cewch lety mewn bwthyn, bwyd, incwm misol bychan, a'r mwyafrif o'r gwyliau ysgol i ffwrdd. Os ydych chi wedi ennill digon o brofiad a chymwysterau fe fydd cyfle o bosib erbyn diwedd y flwyddyn i weithio fel hyfforddwr yn y ganolfan ar gyflog llawn. Disgwyliwn i chi ymddwyn mewn modd proffesiynol a chymryd pob cyfle i fanteisio ar y flwyddyn.
Am ragor o fanylion ynglŷn â'r swydd, cysylltwch â jenny.wilson@conwy.gov.uk neu NWOES@conwy.gov.uk
Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Mae angen cofrestriad CGA cyn decrau gweithio.
Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Jenny Wilson, Pennaeth y Ganolfan ( Jenny.wilson@conwy.gov.uk , 01492 640735 )
Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn dymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.
Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.
Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.
Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.
Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.
Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).
Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.
This form is also available in English.