MANYLION
  • Lleoliad: Nationwide,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £27,711 - £31,067 y flwyddyn (G05)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £27,711 - £31,067 y flwyddyn (G05)

Lleoliad gwaith: Hybrid - Ysgolion ag yn gymuned

Mae Gwasanaeth Ieuenctid Conwy yn awyddus i benodi unigolyn profiadol gyda hunan-gymhelliant sydd ag angerdd tuag at gefnogi pobl ifanc i gyflawni. Fe fydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn rhannu ei amser yn gweithio mewn Ysgol Uwchradd ac amgylchedd Cymunedol.

Diben y prosiect yw i:
• Helpu i fynd i'r afael â materion presenoldeb a'r angen i ail-ymgysylltu gyda dysgu, problemau sydd wedi gwaethygu o ganlyniad i Covid.
• Datblygu rhaglenni cadarn o gefnogaeth i ddatblygu gwell canlyniadau addysgol i blant o gefndiroedd difreintiedig neu sy'n ddiamddiffyn o ganlyniad i resymau eraill.
• Cefnogaeth i wella amgylchedd y teulu a'r amgylchedd dysgu yn y cartref.
• Darparu cefnogaeth o ran ymyrraeth gynnar a chysylltu â gwasanaethau cefnogi eraill pan fo angen, gan gynnwys cefnogi iechyd meddwl a lles.
• Helpu teuluoedd difreintiedig i gael mwy o gapasiti i gefnogi dysg eu plentyn, gall hyn olygu cyfeirio at wasanaethau eraill fel cymorth gyda dibyniaeth, sicrhau cymaint o incwm â phosibl ac addysg oedolion.
• Gweithio gyda Swyddogion Lles Addysg, Cydlynwyr Anghenion Dysgu Ychwanegol, Darparwyr Gofal Iechyd, Cydlynwyr Ysgolion Iach, TRAC, y Gwasanaethau Cymdeithasol, y Gwasanaethau Hamdden, Llyfrgelloedd, Cydlynwyr Ymgysylltu a Datblygu Ieuenctid, Cydlynwyr Digartrefedd Ieuenctid, Sefydliadau'r Trydydd Sector, y Gwasanaeth Cyflogadwyedd a lleoliadau addysg bellach.
• Darparu'r wybodaeth sydd ei hangen i'r Cydlynydd Grant ar gyfer adroddiadau i Uwch Arweinwyr a Llywodraeth Cymru ar effaith a chynnydd y prosiect.
• Gweithio mewn partneriaeth gyda gweithwyr canolfannau i deuluoedd Conwy i ddarparu pecyn o gefnogaeth ar gyfer teuluoedd, gan alluogi rhieni/gofalwyr i gael mynediad i gyfleoedd dysgu oedolion a fyddai'n eu galluogi i gefnogi dysg eu plant, eu lles neu fuddiannau eraill yn well.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Celia Caldecott, Cydlynydd Grant Ymgysylltu Cymunedol( 01492 575377 celia.caldecott@conwy.gov.uk )

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.