MANYLION
  • Lleoliad: Rural,
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £24,404 - £24,790 y flwyddyn pro rata (G02)
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 05 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Cogydd Cynorthwyol

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: £24,404 - £24,790 y flwyddyn pro rata (G02)

Lleoliad gwaith: Canolfan Addysg Awyr Agored Pentrellyncymer

Gwahoddir ceisiadau am swydd Is-Gogydd/es yng Nghanolfan Addysg Awyr Agored Pentrellyncymer.

Cynorthwyo'r cogydd yng ngofal gyda phob gweithgaredd sy'n ymwneud â threfniant y gegin, a'r ddarpariaeth o arlwyo priodol i gefnogi'r cyrsiau dydd a phreswyl a gynhelir yng Nghanolfan Pentrellyncymer.

Yn eisiau erbyn Mai 2025.

Oriau gwaith - 24.5 awr yr wythnos i'w weithio ar sail shifft, ynghyd â phenwythnosau achlysurol. Amser tymor yn bennaf, ond weithiau gwaith gwyliau. Yr union batrwm i'w gytuno gyda'r Ganolfan.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol:

Jenny Wilson, Pennaeth y Ganolfan

01492 640735 Jenny.wilson@conwy.gov.uk neu NWOES@conwy.gov.uk

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn ddymunolar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.