MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £29,093 i £31,067 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.07 i £16.10 yr awr
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 07 Mai, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) Lefel 4 (Ysgol Trefonnen)
Cyngor Sir Powys
Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £29,093 i £31,067 y flwyddyn ar gyfartaledd £15.07 i £16.10 yr awr
Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Generig) Lefel 4 (Ysgol Trefonnen)Swydd-ddisgrifiad
Mae'r swydd hon wedi'i chyfuno gyda'r rôl fel Cynorthwyydd Addysgu (Generig) Lefel 3 (SLF0176)
Swydd barhaol: Cynorthwyydd Addysgu Lefel Uwch (Lefel 4)
9.25 awr yr wythnos/ 38 wythnos ynghyd â hawl gwyliau pro-rata
Ei angen/Ei hangen o 5.5.25
Mae Ysgol Trefonnen yn ysgol yr Eglwys yng Nghymru ddwy ffrwd, a reolir yn wirfoddol sydd â ffocws cymunedol ar gyfer plant 4-11 oed; mae rhai o'n plant yn dysgu'n gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a rhai drwy'r Saesneg. Fodd bynnag, mae pob un o'n disgyblion yn rhannu'r profiad cyffredin o fyw a dysgu yng Nghymru. Yn adeilad yr ysgol, mae gennym saith ystafell ddosbarth, grŵp rhiant a phlant bach, a Ti a Fi (grŵp mam a phlant bach dwyieithog), grŵp Blynyddoedd Cynnar cyn-ysgol (cyfrwng Saesneg), Cylch Meithrin (grŵp cyn ysgol cyfrwng Cymraeg) a dau leoliad Dechrau'n Deg a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae angen cynorthwyydd cymorth dysgu arnom i gefnogi dysgu disgyblion yn Ysgol Trefonnen.
Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Addysgu sy'n:
• llawn gymhelliant ac yn gallu meithrin perthynas gwych â phlant.
• cyfathrebwr da
• cael dealltwriaeth dda o'r Cwricwlwm i Gymru
• cael profiad o gynllunio, paratoi ac addysgu gwersi i ddysgwyr cynradd
• cael disgwyliadau uchel o ran dysgu ac ymddygiad
• gweithio'n dda fel rhan o dîm
• cael profiad o gefnogi dysgwyr sydd ag ADY
Yn gyfnewid, gallwn gynnig y canlynol i chi:
• Tîm ymroddedig o staff a llywodraethwyr
• Disgyblion cyfeillgar a brwdfrydig
• Amgylchedd dysgu gofalgar gydag adnoddau da iawn
• Partneriaeth gref gyda rhanddeiliaid
Bydd angen gwiriad y gwasanaeth datgelu a gwahardd ar ymgeiswyr.
Dyddiad Cau: 7.4.25
Dyddiad y Cyfweliad: 1.5.25