MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £29,093 i £31,067 y flwyddyn £15.07 i £16.10 yr awr
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Swyddog Lles Addysg

Cyngor Sir Powys

Cyflog: Graddfa 7 Pwynt 15 i Bwynt 19 £29,093 i £31,067 y flwyddyn £15.07 i £16.10 yr awr

Swyddog Lles Addysg
Swydd-ddisgrifiad
Mae'r gallu i ddefnyddio'r Gymraeg yn gymhwyster hanfodol ar gyfer y swydd hon

Am y rôl:
Mae Swyddogion Lles Addysg yn gweithio mewn partneriaeth ag ysgolion, yr
Awdurdod Lleol ac asiantaethau eraill i ddarparu gwasanaeth effeithiol ac o ansawdd i bobl ifanc a'u teuluoedd. Mae hyn yn cynnwys nodi ac asesu eu hanghenion pan fo pryder am amddifadedd materol neu gymdeithasol, presenoldeb ysgol, tangyflawni ac ymddygiad.
Amdanoch chi:
• Ymrwymiad i gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd
• Sgiliau rhyngbersonol ardderchog
• Sgiliau cyfathrebu effeithiol
• Y gallu i feddwl yn greadigol
• Bod â gwybodaeth a dealltwriaeth o ganllawiau presenoldeb a rhaglenni cymorth bugeiliol
Eich dyletswyddau:
• Sicrhau agwedd brwdfrydig tuag at gefnogi dysgwyr a'u teuluoedd
• Ymateb yn effeithiol i anghenion newidiol
• Deall a chefnogi hawl pob plentyn i addysg
• Defnyddio sgiliau cyfathrebu effeithiol i feithrin perthynas â theuluoedd ac
ysgolion
• Cysylltu ag ystod eang o bartneriaid ac asiantaethau allanol
Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, gallwch gysylltu â
recruitment@powys.gov.uk

Mae'n ofynnol cael gwiriad manylach y Gwasanaeth Gwahardd a Datgelu ar
gyfer y swydd hon