MANYLION
  • Lleoliad: Deeside, Flintshire, CH5 4BR
  • Testun: Darlithydd
  • Oriau: Amser llawn
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Blynyddol
  • Salary Range: £26,911 - £41,598
  • Iaith: Saesneg
  • Dyddiad Cau: 17 Mehefin , 2021 11:45 y.p

This job application date has now expired.

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Coleg Cambria
Rhagori ar ddisgwyliadau drwy addysg, arloesedd ac ysbrydoliaeth...

Teitl y Swydd: Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Lleoliad: Glannau Dyfrdwy

Y Math o Gontract: Llawn Amser Parhaol

Cyflog: £26,911 i £41,598 cyflog yn seiliedig ar asesiad cyflog a phrofiad perthnasol

Mae Coleg Cambria yn tyfu felly rydym yn chwilio am Ddarlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol i weithio ar ein safleoedd Glannau Dyfrdwy. Eich cyfrifoldeb fel Darlithydd Iechyd a Gofal Cymdeithasol yw cyflwyno’r cymwysterau CBAC Lefel 2 a 3 yn ogystal â chyflwyno ein cymhwyster BTEC Iechyd a Gofal Cymdeithasol ar adegau.



Gofynion Hanfodol

● Mae’n hanfodol bod gennych chi Lefel 4 neu gymhwyster perthnasol cyfwerth e.e: Gofal Plant a Blynyddoedd Cynnar.

● Mae gradd neu gymhwyster cyfwerth (Lefel 6) yn ddymunol iawn

● Rydym yn chwilio am ymgeiswyr sydd gyda chymhwyster TAR neu yn fodlon gweithio tuag at y cymhwyster hwnnw

● Mae’r gallu i gyflwyno a chyfathrebu yn rhugl trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddymunol

Mae Coleg Cambria wedi ymrwymo i hyrwyddo proffil y Gymraeg.

Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol ar gyfer y swydd hon.

Mae Coleg Cambria yn gyflogwr ‘Hyderus o ran Anableddau’.

Mae hyrwyddo Cydraddoldeb ac Amrywiaeth yn rhan hanfodol o’n gwaith, ac mae’r coleg wedi ymrwymo i gael grŵp staff amrywiol fel rhan o hynny.

Mae diogelwch plant, pobl ifanc ac oedolion, y nodwyd eu bod yn ‘agored i niwed’, yn hollbwysig ac mae Coleg Cambria wedi ymrwymo’n llwyr i ddiogelu a hyrwyddo llesiant yr unigolion hyn ac i weithredu gweithdrefnau a threfniadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn drwyadl. Byddwn yn gofyn am wiriad DBS gan yr ymgeisydd llwyddiannus a fydd yn cael cynnig y swydd.

Sylwer bod Coleg Cambria yn cadw’r hawl i gau ein swyddi gwag yn gynharach na’r dyddiad a nodwyd petaem yn derbyn nifer fawr o geisiadau. Byddem yn argymell eich bod yn cwblhau eich cais cyn gynted ag y bo modd os ydych yn dymuno cael eich ystyried ar gyfer y swydd. Os nad ydych wedi clywed gennym ymhen pythefnos o’r dyddiad cau, yna’n anffodus ni lwyddoch i gael cyfweliad.

Dyddiad Cau: 17/06/21
JOB REQUIREMENTS
Essential Requirements

It is essential that you hold a Level 4 or equivalent qualification in a relevant subject eg: Childcare and Early Years.

A degree or equivalent (Level 6) qualification is highly desirable

We are looking for candidates who are either PGCE qualified or willing to work towards

The ability to deliver and communicate fluently through the medium of Welsh is desirable