MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Cyflog: Athrawon yn Talu Cyflog ynghyd â Lwfans ADY - £2,728
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 04 Ebrill, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (ASA) Cyfnod Allweddol 2 yn Ysgol Gynradd Hafod

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Cyflog: Athrawon yn Talu Cyflog ynghyd â Lwfans ADY - £2,728

Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (ASA) Cyfnod Allweddol 2 yn Ysgol Gynradd Hafod

Disgrifiad Swydd
CYNGOR RHONDDA CYNON TAF

Athro Dosbarth Cynnal Dysgu (Anhwylder y Sbectrwm Awtistig) – Cyfnod Allweddol 2 yn Ysgol Gynradd Hafod

Oriau: 32.5 awr yr wythnos

Cyflog: Athrawon yn Talu Cyflog ynghyd â Lwfans ADY - £2,728

Dyddiad dechrau: 1 Medi 2025

Mae Gwasanaeth Mynediad a Chynhwysiant Rhondda Cynon Taf eisiau penodi athro dosbarth rhagorol a llawn cymhelliant i weithio yn y Dosbarth Cynnal Dysgu ar gyfer disgyblion ag Anhwylderau'r Sbectrwm Awtistig (ASA) yn Ysgol Gynradd Hafod gan ddatblygu darpariaeth ar gyfer y disgyblion hynny.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus brofiad o ystod o strategaethau addysgu, dysgu, asesu a rheoli ymddygiad i gael effaith gadarnhaol ar gynnydd disgyblion ag awtistiaeth.

Ydych chi'n berson arloesol, brwdfrydig, llawn cymhelliant ac ymrwymiad? Oes gyda chi dystiolaeth gadarn o'r gallu i weithio ar y cyd yn rhan o garfan? Pe gallech chi wneud cyfraniad cadarnhaol i ddatblygiad ein disgyblion, hoffen ni glywed gennych chi.

Mae modd cael ffurflenni cais, a rhagor o fanylion, gan gynnwys disgrifiad swydd a manyleb y person ar gyfer y rôl drwy Wefan Recriwtio Ysgolion gan ddefnyddio’r ddolen: https://ce0576li.webitrent.com/ce0576li_webrecruitment/wrd/run/ETREC105GF.open?WVID=2482495vvA&LANG=CYM Sylwch, i wneud cais am y swydd yma mae'n ofynnol i chi lenwi'r ffurflen gais ar-lein ar Wefan Recriwtio Ysgolion. Os dydych chi ddim yn llenwi'r ffurflen gais ar-lein byddwn ni'n ystyried eich bod chi ddim wedi gwneud cais am y swydd.

Mae gennyn ni wefan recriwtio newydd a bydd angen i chi greu cyfrif newydd i wneud cais am y swydd yma.

Am ragor o wybodaeth cysylltwch â Rachel Williams, y Gwasanaeth Cynnal Dysgu, Tŷ Trevithick, Abercynon, Aberpennar, CF45 4UQ, neu anfon e-bost: Rachel.williams3@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dydd ar 4 Ebrill 2025 am 12 hanner nos.

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.

Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor.