MANYLION
  • Lleoliad: Cardigan,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 60,203 - 69,787 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Ebrill, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Penparc

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 60,203 - 69,787 *

Ynglŷn â'r rôl
Dyddiad dechrau: 1af o Fedi, 2025

Yn sgil penodiad ein Pennaeth presennol i ysgol uwchradd o fewn yr ardal, mae Llywodraethwyr Ysgol Gymunedol Penparc yn awyddus i benodi olynydd ymroddedig ac ysbrydoledig ar gyfer yr ysgol gynradd gymunedol boblogaidd hon. Lleolir Ysgol Gymunedol Penparc ar gyrion tref Aberteifi yng Ngheredigion. Cymraeg yw prif gyfrwng gwaith a bywyd yr ysgol.

Mae'r ysgol yn darparu amgylchedd gofalgar, cynhwysol, llawn parch o'r radd flaenaf. Dymuna'r Llywodraethwyr benodi Pennaeth newydd i arwain yr ysgol yn y cyfnod nesaf o'i datblygiad. Mi fydd gan y Pennaeth ymrwymiad dysgu o tua 0.5.

Mae rhyw 109 o ddisgyblion yn yr ysgol ac mae tîm effeithiol o athrawon a staff cefnogi yn cynorthwyo pob disgybl i ddysgu a datblygu i'w llawn botensial. Mae'r Llywodraethwyr am benodi Pennaeth a all adeiladu ar y cryfderau presennol a bod yn agored i syniadau newydd a sicrhau bod yr ysgol yn paratoi ei disgyblion ar gyfer byd sy'n newid o'u cwmpas.

Rydym yn awyddus i sicrhau bod yr ysgol yn parhau i ffynnu ac yn manteisio ar gyfleoedd pellach i ragori yn y dyfodol. Rydym am benodi unigolyn profiadol sy'n meddu ar nodweddion arweinyddiaeth a rheolaeth rhagorol ac a fydd yn:
  • hyrwyddo safonau cyflawniad uchel i bawb tra'n hyrwyddo cymuned gefnogol a chynhwysol
  • annog ac yn cefnogi disgyblion i fod yn ddysgwyr annibynnolac uchelgeisiol
  • ysbrydoli ac yn hybu datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol
  • annog ymrwymiad rhieni a'r gymuned o fewn yr ysgol.

Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus y nodweddion canlynol:
  • gweledigaeth glir o ran datblygiad yr ysgol hon sydd wedi ei hen sefydlu ac sy'n rhoi lle canolog i'r Gymraeg yn y gymuned
  • y gallu i annog disgyblion i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni i gefnogi'r Gymraeg adref
  • dealltwriaeth o arferion dysgu effeithiol ac ymrwymiad cryf i barhau i'w datblygu drwy'r ysgol yn y dyfodol
  • medrau cadarn o ran cyfathrebu, ymwneud ag eraill, rheoli a threfnu
  • dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob disgybl er mwyn iddynt gyflawni ei lawn botensial
  • gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysgol cyfredol a gwir ddiddordeb yn y maes
  • ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol parhaus ac i adeiladu tîmer mwyn sicrhau'r cyfleoedd gorau posib i bob disgybl
  • ymrwymiad cryf i gyfoethogi'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y gymuned leol, ysgolion eraill a'r Urdd.

Rhaid i bob ymgeisydd feddu ar gymhwyster CPCP (Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth).

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Cyfweliadau: Dydd Iau, y 10fed o Ebrill (gofynnir i ymgeiswyr sicrhau eu bod ar gael ar y diwrnod hwn) a gynhelir yn Ysgol Gymunedol Penparc.

Mae croeso i ymgeiswyr ymweld â'r ysgol, os ydynt yn dymuno, cyn cyflwyno cais. Am fanylion pellach, cysylltwch ag Ymgynghorydd Cegnogi yr ysgol, Mr Dafydd Iolo Davies ar dafydd.iolodavies@ceredigion.gov.uk / 07812920421.

Noder: Cedwir yr hawl i ymestyn y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch. Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnau blaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant