MANYLION
- Lleoliad: Bangor,
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £17,470.45 - £18,958.16 y flwyddyn (cyflog gwirioneddol), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Aseswr Dysgu yn y Gweithle - Gofal Plant a Cynorthwyydd Addysgu
Grwp Llandrillo Menai
Cyflog: £17,470.45 - £18,958.16 y flwyddyn (cyflog gwirioneddol), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Mae'r adran gofal plant yn cynnig ystod o gymwysterau sef gofal plant, plant a phobl ifanc, cynorthwyydd addysgu a hefyd mewn gwaith chwarae. Golyga'r swydd hon fod yn gyfrifol am recriwtio, cadw a rheoli llwyth achosion safonol o ddysgwyr sydd wedi dewis cofrestru ar gymwysterau Gofal Plant/ neu Plant a Phobl ifanc.Mae'r Asesydd yn gyfrifol am ddarparu hyfforddiant, asesu, a sicrhau ansawdd gwaith y dysgwyr. Bydd yr asesydd yn goruchwylio dealltwriaeth a chymhwysedd ymarferol y dysgwyr yn y gweithle.
Bydd disgwyl i'r aseswr recriwtio, cefnogi ac annog gweithgareddau marchnata yn unol â maes y Rhaglen, ac ymgysylltu â digwyddiadau ymgysylltu â chyflogwyr ar gyfer amrywiaeth o gymwysterau mewn Gofal Plant, Cynorthwywyr Addysgu, Plant a Phobl ifanc a Gwaith Chwarae a chefnogi cyd-aseswyr. Mae'n rhaid i'r aseswr gefnogi a monitro cynnydd y dysgwyr a chwblhau'n amserol, a mynychu cyfarfodydd Maes Rhaglen a safoni.
O ddydd i ddydd bydd y swydd yn golygu cyfarfod â dysgwyr a chyflogwyr mewn lleoliadau gwaith gwahanol. Ar y cyfan, bydd hyn yn digwydd yn ddigidol ond bydd peth teithio'n ddisgwyliedig, gan weithio'n annibynnol i sicrhau cydymffurfiaeth â gofynion cymwysterau.
Bydd gofyn i'r asesydd feddu ar y sgiliau i gynllunio ymweliadau mewn modd rhesymegol o ran cyfyngu ar deithio a gwneud y defnydd gorau o amser. Yn ogystal, bydd yn darparu adnoddau a chefnogaeth i fodloni anghenion unigol pob dysgwr yn ei ddewis iaith.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
BD/149/25
Cyflog
£17,470.45 - £18,958.16 y flwyddyn (cyflog gwirioneddol), yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Bangor
- Dolgellau
Hawl gwyliau
- 28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
- Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
- Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
- Bydd gan y rhai ar gontractau Rhan-amser hawl pro rata i'r hyn a nodir uchod
Patrwm gweithio
22.5 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Rhan Amser Parhaol
Dyddiad cau
31 Maw 2025
12:00 YH(Ganol dydd)