MANYLION
- Lleoliad: Rhos-on-Sea,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: £35,766 - £38,138 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: £35,766 - £38,138 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
A ydych yn angerddol am gefnogi prosesau Addysg Uwch o ansawdd uchel a chydymffurfio? Ymunwch â Grŵp Llandrillo Menai fel Swyddog Addysg Uwch, wedi'i leoli yng Ngholeg Llandrillo yn Llandrillo-yn-Rhos, a chwarae rhan ganolog yn siapio dyfodol y ddarpariaeth Addysg Uwch.Yn y swydd ddeinamig hon, byddwch yn darparu cymorth gweithredol hanfodol ar draws y Grŵp, gan sicrhau bod prosesau Addysg Uwch yn cael eu rheoli'n effeithiol, cadw at safonau rheoleiddio, a chydlynu mentrau Addysg Uwch. Byddwch yn gyfrifol am ddatganiadau data, dilysu rhaglenni, a sicrhau ansawdd wrth hybu ymgysylltiad myfyrwyr trwy fentrau fel paneli myfyrwyr, prosesau cynefino a mecanweithiau adborth. Bydd eich ymdrechion yn sicrhau bod gweithgareddau Addysg Uwch yn cydymffurfio, yn effeithlon, ac yn cyd-fynd â disgwyliadau mewnol ac allanol.
Bydd gan ymgeiswyr delfrydol brofiad mewn gweinyddu Addysg Uwch, cydymffurfio, ac ymgysylltu â myfyrwyr, ynghyd â sgiliau trefnu cryf a'r gallu i dalu sylw i fanylion. Byddwch yn bwynt cyswllt allweddol ar gyfer partneriaid Addysg Uwch a chyrff rheoleiddio, a byddwch yn cefnogi datblygiad adnoddau i fyfyrwyr Addysg Uwch a gweithgareddau marchnata. Mae ymrwymiad i ddatblygiad proffesiynol a'r Gymraeg yn hanfodol.
Manylion Swydd
Cyfeirnod y Swydd
CL/148/24
Cyflog
£35,766 - £38,138 y flwyddyn, yn ddibynnol ar gymwysterau a phrofiad
Lleoliad Gwaith
- Llandrillo-yn-Rhos
Hawl gwyliau
28 diwrnod y flwyddyn, yn codi i 32 diwrnod ar ôl pum mlynedd lawn o wasanaeth di-dor (01 Medi i 31 Awst).
Yr holl wyliau cyhoeddus arferol, i'w pennu'n flynyddol.
Hyd at 5 diwrnod effeithlonrwydd / diwrnod y trefnwyd i'r safle fod ar gau bob blwyddyn, i'w pennu'n flynyddol.
Patrwm gweithio
37 awr yr wythnos
Hawliau Pensiwn
Cynllun Pensiwn Llywodraeth Leol
Math o gytundeb
Llawn Amser Parhaol
Dyddiad cau
31 Maw 2025
12:00 YH(Ganol dydd)