MANYLION
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 03 Ebrill, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cynorthwy-ydd Cymorth Dysgu - Ffederasiwn Ysgolion Casmael a Llanychllwydog

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Grade 3 - £24,027 pro rata

Gradd 3 - £24,027 am 17 awr yr wythnos sy'n cyfateb i 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £9,697.08 pro rata.

Rydym yn chwilio am Gynorthwyydd Cefnogi Dysgu Lefel 1 galluog i weithio fel cymorth 1:1 i blentyn. Mae hon yn swydd cyfnod penodol tan 12.05.2026.

Yn Ysgol Llanychllwydog, credwn mewn darparu amgylchedd cynhwysol i'n holl ddysgwyr. Mae Diogelu ac Amddiffyn Plant yn un o flaenoriaethau allweddol Gwasanaeth Plant ac Ysgolion yn Sir Benfro. Ein nod yw cefnogi plant a phobl ifanc agored i niwed i sicrhau eu bod mor ddiogel ag y gallant fod. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch ac i amddiffyn pob plenty. Byddwn yn cymryd camau i ddiogelu eu lles, ac yn cydnabod bod gan blant hawl i gael eu hamddiffyn. Cefnogir hyn trwy ethos cyffredinol ein hysgol.

Fe fydd y rôl yma'n golygu cefnogi un plentyn penodol trwy weithio ochr yn ochr â'r athro dosbarth yn ogystal a gweithwyr proffesiynol eraill; ffurfio perthynas waith gyda'r plentyn a darparu gweithgareddau diddorol mewn ffordd hwylus.

Manylion pellach - dyma'r rhinweddau ar gyfer y rôl yma:

  • datblygu perthynas waith gyda'r plentyn, yn seiliedig ar ymddiriedaeth.
  • bod yn empathetig a gwydn.
  • wedi derbyn hyfforddiant Team Teach, neu yn fodlon derbyn hyfforddiant.
  • cael profiad o, neu fod yn barod i ddysgu a defnyddio'n hyderus strategaethau ymarfer Team Teach ac ymarfer sydd yn addas ar gyfer unigolion sydd yn agored i drawma.
  • cael profiad o, neu fod yn barod i weithio gyda phlant a all gael eu dadreoleiddio.
  • gallu defnyddio eich meddwl eich hun i ddarparu gweithgareddau dargyfeiriol sydd yn atyniadol.
  • gweithio ar y cyd gyda'r athro dosbarth i greu rhaglenni o weithgareddau priodol ar gyfer y plentyn.
  • cefnogi'r plentyn mewn gwersi dosbarth, a chydnabod pryd y byddai'n fuddiol cael egwyl a symud.
  • bod yn hyderus wrth roi adborth mewn cyfarfodydd neu gyda gweithwyr proffesiynol.
  • cysylltu â gofalwyr a rhoi adborth rheolaidd ochr yn ochr â'r athro dosbarth.
  • deal a defnyddio ein protocol diogelu
  • i gofrestru gyda Chyngor y Gweithlu Addysg (CGA).
  • cael hanes presenoldeb rhagorol.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.