MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Dros dro
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
- Iaith: Cymraeg
This job application date has now expired.
Cyflog: Graddfa 2 Pwynt 2 £23,656 y flwyddyn ar gyfartaledd £12.26 yr awr
Clerc / Gweinyddwr - Lefel 1 (Generig) (Ysgol Llanfyllin)Swydd-ddisgrifiad
Swydd Wag - Cynorthwyydd Clerigol.
Mae'r Corff Llywodraethol yn ceisio cyflogi cynorthwyydd clerigol i ymuno a thîm staff cefnogi prysur yr ysgol.
Byddai profiad mewn rôl debyg o fudd ond nid yw'n hanfodol. Mae'r swydd yn ymofyn am hyblygrwydd gan nad oes dau ddiwrnod yr un fath. Mae ardal y dderbynfa yn brysur a bydd angen i ddeiliad y swydd fod yn barod ac yn hapus i weithio mewn amgylchedd prysur iawn.
Byddai sgiliau Cymraeg yn ddymunol.
Bydd y swydd hon yn gweithio o dan gyfeiriad/gyfarwyddyd, gan ymgymryd â thasgau clerigol, gweinyddol ac ariannol gan ddilyn gweithdrefnau sefydledig.
Caiff gwaith ei ddirprwyo i'r swydd hon a phennir blaenoriaethau gan oruchwyliwr.
Derbynfa:
Ymgymryd â dyletswyddau'r dderbynfa: helpu creu awyrgylch croesawgar, dymunol; derbyn ymwelwyr, danfoniadau/ nwyddau, delio a gweinyddiaeth gysylltiedig (bathodynnau diogelwch, arwyddo nodiadau dosbarthu).
Delio gydag ymholiadau arferol.
Dyletswyddau Swyddfa:
Ymdrin â phost sydd yn dod i mewn a'i ddosbarthu fel y bo'n briodol.
Ymdrin â phost sy'n gadael, paratoi'r taliad, postio, cadw cofnod o'r postio.
Delio gydag ymholiadau ffôn, cymryd negeseuon a'u trosglwyddo fel y bo'n briodol.
Ymgymryd â gweithgareddau/dyletswyddau clerigol arferol e.e. llungopïo, ffeilio, e bostio, cwblhau ffurflenni arferol.
Defnyddio holl systemau'r ysgol - SIMS, Class Charts a phecynnau Microsoft.
Dosbarthu dogfennau a deunyddiau o fewn yr ysgol.
Ariannol:
Ymgymryd â gweinyddiaeth ariannol arferol.
Cofnodion:
Cynnal/ mewnbynnu/ diweddaru / adalw gwybodaeth, data a chofnodion gan ddefnyddio cyfrifiadur neu a llaw, gan ddilyn arferion gosod.
Coladu adroddiadau, dan gyfarwyddyd.
Arall:
Cynorthwyo gyda threfniadau ar gyfer ymweliadau.
Cynorthwyo gyda lles disgyblion/ cymorth cyntaf, cysylltu â rhieni.
Sefyll i mewn ar ran swyddog gweinyddol yr ysgol, ond ni fydd disgwyl cwmpasu'r ystod lawn o ddyletswyddau.
Cymwysterau
Addysgwyd hyd at o leiaf lefel TGAU( neu gyfwerth) yn Saesneg, Cymraeg os oes angen a Mathemateg i fedru creu llythyrau a chadw cofnodion.
Gallu cyflawni tasgau arferol.
Gallu dilyn a chyflawni cyfarwyddiadau gan eraill.
Gallu llunio negeseuon syml.
Deall a medru defnyddio technoleg berthnasol a bod yn berchen ar sgiliau bysellfwrdd /prosesu geiriau.
Gallu adnabod atebion syml i broblemau syml.
Cymhwyso syniadau/ cysyniadau wedi'i eu creu gan eraill.
Os hoffech fwy o wybodaeth am y rôl/ neu am ffurflen gais cysylltwch â Sarah Hunter, 01691 648391 office@llanfyllin.powys.sch.uk.
Mae'r swydd yn amodol ar wiriad manwl GDG.
Dyddiad Cau Dydd Llun Mawrth 24ain 2025.