MANYLION
- Lleoliad: Cardigan,
- Oriau: Full time
- Cytundeb: Parhaol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: 61,705 - 71,523 *
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 02 Ebrill, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Cyflog: 61,705 - 71,523 *
Ynglŷn â'r rôlYn eisiau erbyn: Medi 1, 2025
Mae Corff Llywodraethwyr Ysgol Gynradd Aberporth yn chwilio am ymgeisydd egnïol a brwdfrydig i arwain yr ysgol.
Mae Ysgol Gynradd Aberporth yn gymuned glos a gofalgar, sy'n sicrhau amgylchedd hapus a diogel i bawb. Mae athrawon a staff yr ysgol yn gydwybodol ac yn gweithio'n ddiwyd ac yn ddiflino i gynnig trawstoriad o brofiadau gwerthfawr a chyfleoedd helaeth i'r disgyblion.
Mae Ysgol Gynradd Aberporth yn darparu addysg o ansawdd uchel sy'n sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle cyfartal a mynediad at gwricwlwm amrywiol. Mae'r ysgol yn meithrin sgiliau amrywiol y disgyblion fel y gallant ddatblygu'n ddysgwyr annibynnol, gydol oes.
Mae Ysgol Aberporth ym mhentref Aberporth ar arfordir Ceredigion, tua 7 milltir i'r gogledd o Aberteifi ac 14 milltir i'r de o Gei Newydd. Mae golygfeydd godidog o Fae Ceredigion o safle'r ysgol.
Ar hyn o bryd mae 169 o ddisgyblion ar y gofrestr sy'n cynnwys 15 disgybl sydd wedi'u lleoli yn y Ganolfan Adnoddau Arbenigol, Canolfan y Don, lle mae plant yn derbyn cymorth arbenigol ar gyfer anawsterau dysgu difrifol a/neu ddwys a lluosog. Bydd y Pennaeth yn gyfrifol am arwain y ddarpariaeth yng Nghanolfan y Don a phrif ffrwd yr ysgol. Mae disgyblion y Ganolfan yn integreiddio i'r brif ffrwd ar gyfer rhai gwersi, sesiynau chwarae, amser cinio a holl weithgareddau allgyrsiol neu breswyl yr ysgol.
Darperir addysg cyfrwng Cymraeg i ddisgyblion rhwng 4 ac 11 oed ar draws chwe dosbarth ac mae tua 26% o ddisgyblion yn dod o gefndir Cymraeg. Mae Ysgol Aberporth mewn ardal Dechrau'n Deg lle mae tua 25% o ddisgyblion dan 4 oed dan anfantais. Mae data WIMD hefyd yn amlygu bod tua 59% o'r disgyblion sydd o fewn y 25% o'r LSOA's mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn cael anhawster i gael mynediad at wasanaethau a bod 78% yn cael trafferth cael mynediad at dai.
Cynhaliwyd arolygiad interim diweddar gan ESTYN a nodwyd fod Ysgol Aberporth wedi gwneud 'cynnydd cadarn' wrth ymateb i'r ddau argymhelliad a gyhoeddwyd yn yr arolygiad llawn blaenorol ym mis Mawrth 2020. O ganlyniad, mae sgiliau rhifedd, darllen ac ysgrifennu y rhan fwyaf o ddisgyblion yn gwella'n dda.
Y nod yw penodi unigolyn profiadol gyda rhinweddau arwain a rheoli rhagorol a fydd yn:
- adeiladu ar bartneriaethau iach sy'n bodoli eisoes a chynnal perthynas gref gyda'r holl randdeiliaid
- darparu arweinyddiaeth ardderchog sy'n tynnu ar arbenigedd staff eraill ac yn atgyfnerthu arbenigedd staff eraill
- hyrwyddo lles dysgwyr a staff
- annog a chefnogi pob dysgwr i wireddu pedwar diben y Cwricwlwm i Gymru
- hyrwyddo safonau uchel, cynnydd a chyrhaeddiad i bawb
- arwain ar agendâu trawsnewid cenedlaethol
- hyrwyddo datblygiad staff mewn addysgu a dysgu arloesol
- annog cyfranogiad rhieni/gofalwyr a chymuned y ddwy ysgol
- hyrwyddo cynhwysiant llawn ar draws y brif ffrwd a Chanolfan y Don
Bydd gan yr ymgeisydd llwyddiannus:
- weledigaeth clir ar gyfer datblygu'r ysgol a Chanolfan y Don sy'n ysbrydoli staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr fel ei gilydd
- disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill o fewn lleoliad ysgolion a chymunedau ehangach Aberporth
- y gallu i ddarparu amgylchedd gofalgar, parchus a chynhwysol i bawb
- dealltwriaeth glir ac ymrwymiad i ddatblygu arferion addysgegol effeithiol
- sgiliau cyfathrebu, rhyngbersonol, rheoli a threfnu cryf
- dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob dysgwr i gyrraedd eu potensial llawn
- gwybodaeth gadarn am ddatblygiadau ac arferion addysg cyfredol a diddori ynddynt
- ymrwymiad i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus a gwaith tîm
- ymrwymiad cryf i barhau â'r cysylltiadau â'r Llywodraethwyr, y gymuned leol a'r ysgolion, Mudiad Meithrin, Cylch Chwarae dwyieithog Aberporth ac Urdd Gobaith Cymru.
- y gallu i annog dysgwyr i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac annog rhieni/gofalwyr i gefnogi'r Gymraeg gartref
Mae'r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth llawn amser lle mae'r gallu i gyfathrebu trwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol. Mae cymhwyster CPCP yn hanfodol ar gyfer y rôl hon.
Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ddwy ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Lisa Stopher (Cadeirydd y Corff Llywodraethwyr) ar 07717 860707 i drefnu ymweliad.
I gael rhagor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Rhianydd James, Cynghorydd Cefnogi Ysgol, ar 07811 593801 neu drwy e-bost rhianydd.james@ceredigion.gov.uk
Disgrifiad Swydd a Manyleb Person
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Mercher, Ebrill 2il 2025 a chynhelir cyfweliadau ddydd Gwener, Ebrill 11eg, 2025.
Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.
Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.
Yr hyn a gynigwn
Cydbwysedd bywyd a gwaith
Cynllun cynilo ffordd o fyw
Cynllun pensiwn cyflogwr hael
Cynllun beicio i'r gwaith
Dysgu a datblygu
Lle byddwch yn gweithio
Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
- Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
- Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
- Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
- Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
- Derbyniadau Ysgol
- Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
- Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
- Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
- Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant