MANYLION
  • Lleoliad: St Mary’s Roman Catholic Primary School,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £14,429 – £14,904 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Ebrill, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cogydd - Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £14,429 – £14,904 y flwyddyn

Cogydd - Ysgol Gynradd Gatholig y Santes Fair
Disgrifiad swydd
22.5 awr yr wythnos

Yn ystod tymor yr ysgol

Gwahoddir ceisiadau am y swydd uchod fel Cogydd i reoli a chydlynu gweithgareddau yn y gegin hon o ddydd i ddydd, gan sicrhau bod gwasanaeth o ansawdd yn cael ei ddarparu i'r holl gwsmeriaid.

Byddwch yn gyfrifol am gynllunio'r fwydlen, rheoli dognau, paratoi a choginio, dyletswyddau gweinyddu a goruchwylio staff.

Byddai profiad blaenorol o baratoi bwyd a choginio i niferoedd mawr, goruchwylio, dyrannu dyletswyddau a hyfforddi yn fantais, ynghyd â gofynion Iechyd a Diogelwch, diogelwch, dyletswyddau gweinyddol, gofynion deiet arbenigol a diwylliannol, a gwybodaeth am reoliadau COSHH.

Mae Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd yn hanfodol ar gyfer y swydd hon (darperir hyfforddiant). Mae NVQ 2 neu gyfwerth yn ddymunol.

Bydd yr oriau gwaith rhwng 9.00am a 2.00pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod tymor yr ysgol yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 02 Ebrill 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 03 Ebrill 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 09 Ebrill 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person