MANYLION
  • Lleoliad: Maes-Yr-Haul Primary,
  • Oriau: Part time
  • Cytundeb: Not Specified
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: £8,881 y flwyddyn
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 02 Ebrill, 2025 12:00 y.b

This job application date has now expired.

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Maes yr Haul

Cyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr

Cyflog: £8,881 y flwyddyn

Cogydd Cynorthwyol - Ysgol Gynradd Maes yr Haul
Disgrifiad swydd
15 awr yr wythnos

Bydd yn ofynnol i'r ymgeisydd llwyddiannus gynorthwyo'r cogydd i baratoi prydau ysgol am ddim i'r holl blant yn yr ysgol gynradd.

Byddwch yn cynorthwyo wrth hyfforddi a threfnu staff a byddai gwybodaeth am weithdrefnau gweinyddu cegin yn fantais.

Bydd disgwyl i chi gyflenwi ar gyfer y Cogydd yn ei absenoldeb a chyflenwi mewn ysgolion eraill yn y Fwrdeistref Sirol.

Mae angen Tystysgrif Hylendid Bwyd Canolradd ar gyfer y swydd hon. Darperir hyfforddiant os bydd angen.

Trefnir oriau gwaith rhwng 10am a 2pm, o ddydd Llun i ddydd Gwener, yn ystod y tymor yn unig.

Mae'r gallu i gyfarch cwsmeriaid drwy gyfrwng y Gymraeg yn un o’r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Mae amddiffyn plant, pobl ifanc neu oedolion mewn perygl yn un o gyfrifoldebau craidd pob un o gyflogeion y cyngor.

Mae gwiriad cofnodion troseddol Manwl gyda Rhestr Waharddedig Plant gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) yn un o'r gofynion ar gyfer y swydd hon.

Dyddiad Cau: 2 Ebrill 2025

Dyddiad Llunio'r Rhestr Fer: 4 Ebrill 2025

Dyddiad y Cyfweliad: 9 Ebrill 2025

Manteision gweithio yng Nghyngor Pen-y-bont ar Ogwr

Disgrifiad Swydd a Manyleb y Person