MANYLION
- Oriau: Part time
- Cytundeb: Cyfnod penodol
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060 pro rata
- Iaith: Cymraeg
- Dyddiad Cau: 01 Ebrill, 2025 12:00 y.b
This job application date has now expired.
Swyddog Ymgysylltu â Theuluoedd – Ysgol Gynradd Gymunedol Stepaside
Cyngor Sir Benfro
Cyflog: Grade 6 - £27,269 - £30,060 pro rata
Gradd 6 - £27,269 am 10 awr yr wythnos yn ystod y tymor yn unig am 45.8 wythnos y flwyddyn sy'n cyfateb i £6,473.84 pro rata yn codi i 46.8 wythnos, £7,292.26 pro rata y flwyddyn ar ôl 5 mlynedd o wasanaeth.Mae hon yn swydd benodol tan 31.03.2026.
Mae'r corff llywodraethu, y staff, a'r disgyblion yn ceisio penodi swyddog ymgysylltu â theuluoedd brwdfrydig ac ymroddedig a all gefnogi ein teuluoedd a'n disgyblion.
Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
- yn ymgysylltu'n effeithiol, ac yn gweithio'n agos gyda theuluoedd, staff, disgyblion a'r gymuned ehangach i gymell disgyblion i gyrraedd eu llawn botensial.
- yn meddu ar y gallu i weithio fel rhan o dîm, gan weithio'n agos gyda'r uwch-dîm arwain, y staff addysgu, a rhieni.
- yn gyfrifol am weithio gyda theuluoedd a disgyblion gyda'r nod o wella presenoldeb ar draws yr ysgol.
- yn gallu gweithio ochr yn ochr ag asiantaethau allanol a'r gymuned leol gan gefnogi teuluoedd a disgyblion.
- yn gyfrifol am drefnu digwyddiadau ymgysylltu â rhieni.
- yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, trefnu a chadw cofnodion rhagorol.
Gradd 6
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.