MANYLION
  • Lleoliad: Schools,
  • Cytundeb: Cyfnod penodol
  • Math o gyflog: Not Supplied
  • Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY + CAD2b
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Athro Cynhwysiant ADY (Cynradd)

Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy

Cyflog: Graddfa Cyflog Athrawon + Lwfans ADY + CAD2b

Dim ond gweithwyr mewnol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy a ellir ymgeisio am y swydd hon.

Lleoliad gwaith: Coed Pella / Ysgolion Cynradd Conwy

Rydym yn chwilio am unigolyn brwdfrydig i ymuno â Thîm ADY/Cynhwysiant Cynradd ar secondiad neu sail cyfnod penodol dros gyfnod mamolaeth o fewn y tîm.

Byddwch chi'n ymuno â thîm cefnogol wedi'i hen sefydlu, sydd wedi'u hymrwymo i addysg gynhwysol a chefnogi disgyblion ag ADY.

Rydym yn dîm prysur sy'n cefnogi ysgolion gyda'u cyfrifoldebau statudol gan sicrhau bod yr holl blant yn cael eu trosglwyddo i'r system ADY newydd erbyn Awst 2025. Mae'r tîm yn rhan o ddull amlddisgyblaeth yn y ffordd y cynigir cefnogaeth i ysgolion.

Rydym yn gweithredu fel y swyddog dynodedig ar gyfer plant a nodir, trwy baratoi a chyflwyno achosion i'r Panel Cymedroli ac Aml-asiantaeth, a thrwy baratoi a monitro CDU yr ALl.

Rydym yn chwarae rôl allweddol gan ymateb i ymholiadau rhieni/gofalwyr a bod yn rhan o osgoi a datrys anghytundebau o fewn ysgolion dynodedig.

Rydym yn cefnogi ysgolion i ddefnyddio system Eclipse yn gywir i gynnal cofnodion cywir a chyfredol ar gyfer plant gydag ADY.

Mae'm n gweithio'n agos gyda Chymorth Eclipse i ddatblygu a gwella'r system Eclipse.
Bydd disgwyl i chi gyfrannu at gyfarfodydd tîm a Fforymau Clwstwr Cydlynwyr ADY, Datblygu Eclipse, yn ogystal â chydlynu ac arwain Fforymau Cydlynwyr ADY rheolaidd.

Oherwydd natur y swydd bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn cael archwiliad gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd. Mae yn ofynnol bod yr ymgeisydd llwyddiannus yn cofrestru gyda y Cyngor Gweithlu Addysg cyn cychwyn gweithio yn y swydd hon.

Os ydych chi'n athro â phrofiad o gefnogi plant ag ADY, a diddordeb mewn datblygu gwasanaethau a chymorth yn y maes hwn, cysylltwch ag Amanda Sissons (01492 575531) i gael trafodaeth anffurfiol.

Mae'r rôl hon yn cynnig opsiynau gweithio hyblyg ar gyfer cydbwysedd bywyd a gwaith. Gall hyn gynnwys addasu eich diwrnod gwaith a gweithio hybrid, hy cydbwysedd rhwng gweithio yn y swyddfa a gweithio gartref.

Manylion y rheolwr ar gyfer trafodaeth anffurfiol: Amanda Sissons, Arweinydd Cynhwysiant ADY ( aln@conwy.gov.uk / 01492 575531)

Gofynion y Gymraeg: Mae'r gallu i gyfarthrebu yn y Gymraeg yn hanfodol ar gyfer y swydd hon. Rydym ni wedi ymrwymo i'r Gymraeg ac yn falch iawn o'n diwylliant Cymreig. Rydym yn croesawu ceisiadau yn y Gymraeg a'r Saesneg fel ei gilydd ac ni fydd ffurflenni cais a dderbynnir yn y naill iaith na'r llall yn cael eu trin yn llai ffafriol na'i gilydd.

Rydym yn frwdfrydig dros eich cefnogi a'ch annog i ddefnyddio'ch Cymraeg, beth bynnag eich lefel; ac mae gennym ni ddosbarthiadau am ddim ar gyfer pob lefel, wyneb yn wyneb ac ar-lein, i'ch cefnogi chi ymhellach.

Mae Conwy wedi ymrwymo i ddiogelu. Bydd cymwysterau a geirdaon yn cael eu dilysu.

Rydym wedi ymrwymo i ddatblygu gweithlu amrywiol a thimoedd cynhwysol sy'n croesawu ystod eang o leisiau, profiadau, safbwyntiau a chefndiroedd. Mae creu gweithle sy'n groesawgar a lle mae pawb yn teimlo eu bod yn perthyn yn sicrhau y gallwn ddarparu gwasanaethau rhagorol.

Croesawn ac anogwn ymgeiswyr o bob cefndir a phrofiadau.

Rydym yn Gyflogwr Hyderus o ran Anabledd. Os oes gennych anabledd wedi'i ddatgan yn eich cais, gallwn sicrhau cyfweliad os ydych yn profi eich bod yn bodloni meini prawf hanfodol y swydd yn eich cais (gofynion a nodir gyda 'H' ar y Manylion am yr Unigolyn).

Rydym yn fodlon darparu addasiadau rhesymol trwy gydol y broses recriwtio (ac mewn cyflogaeth) lle bynnag bosibl. Anogwn i chi wneud cais am addasiadau. Er mwyn gwneud hyn, cysylltwch â'r rheolwr a enwir uchod er mwyn trafod eich anghenion a chymorth posibl. Mae dewisiadau i wneud cais trwy ffurfiau gwahanol, cysylltwch â'r Tîm AD ar 01492 576129 er mwyn trafod sut y gallwn eich cefnogi chi. Ni fydd y ceisiadau hyn yn eich rhoi dan unrhyw anfantais.

This form is also available in English.