MANYLION
  • Lleoliad: Aberystwyth,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: 58,844 - 68,090 *
  • Iaith: Cymraeg
  • Dyddiad Cau: 10 Ebrill, 2025 12:00 y.b
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Pennaeth - Ysgol Gynradd Talybont a Chraig Yr Wylfa

Cyngor Sir Ceredigion

Cyflog: 58,844 - 68,090 *

Ynglŷn â'r rôl
Graddfa Cyflog: L7 - L13 (gyda 2 bwynt ychwanegol am gael cyfrifoldeb mwy nag un ysgol)

ISR: 1b

Yn eisiau erbyn: 1 Medi, 2025

Ystyrir geisiadau gan ymgeiswyr sydd heb CPCP ond disgwylir i'r ymgeisydd wneud cais a chael ei derbyn ar y rhaglen o fewn dwy flynedd. Os cyflogir ymgeisydd heb GPGP, yna bydd yr apwyntiad am Bennaeth dros dro yn y man cychwyn.

Mae Corff Llywodraethwr Ysgol Gynradd Tal-y-Bont ac Ysgol Craig yr Wylfa yn chwilio am ymgeisydd egnïol a brwdfrydig i arwain y ddwy ysgol. Mae'r swydd hon yn gyfle gwych i ddatblygu ymhellach y berthynas sydd eisoes wedi ei meithrin rhwng y ddwy ysgol, a hynny er budd y dysgwyr. Mae'r ddwy ysgol wedi'u hangori'n gryf yn eu cymunedau lleol.

Lleolir Ysgol Gynradd Tal-y-Bont ym mhentref Tal-y-bont ac mae'n gwasanaethu'r pentref a'r ardal wledig eang sy'n ymestyn o bentref Glandyfi yn y Gogledd i Bont-goch yn y De-ddwyrain. Darpara addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 mlwydd oed.

Ar hyn o bryd, mae 57 o ddisgyblion ar y gofrestr o fewn tri dosbarth oed cymysg. Daw tua 44% o'r disgyblion o gefndir lle siaredir Cymraeg yn y cartref.

Mae'r ysgol yn cyflogi Pennaeth, Pennaeth Cynorthwyol a chyfwerth ag 1.8 aelod o staff addysgu arall llawn amser. Cafwyd arolwg llwyddiannus gan ESTYN yn Mehefin 2024 lle nodwyd bod "Ysgol Tal-y-Bont yn gymuned ofalgar, hapus a theuluol. Mae'r holl staff yn cydweithio'n effeithiol i ddarparu naws gynhwysol a chyfeillgar ble mae disgyblion yn ymddwyn yn barchus ac yn gwrtais. Mae'r disgyblion yn dangos agweddau cadarnhaol at ddysgu ac maent yn gwneud cynnydd cadarn o'u mannau cychwyn."

Lleolir Ysgol Gynradd Craig yr Wylfa ynghanol pentref glan môr Borth a derbynnir disgyblion o bentrefi cyfagos hyd at Ynyslas a Chlarach. Darpara addysg cyfrwng Cymraeg ar gyfer disgyblion rhwng 4 ac 11 mlwydd oed. Mae'r ysgol yn rhedeg ysgol goedwig wythnosol.

Ar hyn o bryd, mae 24 o ddisgyblion ar y gofrestr o fewn dau ddosbarth oed cymysg. Ychydig o ddysgwyr sy'n dod o gefndir lle siaredir Cymraeg. Mae 14% o'r disgyblion yn ddysgwyr SIY. Mae cyfran uchel o blant ADY a phlant o PYDd.

Mae'r ysgol yn cyflogi Pennaeth Cynorthwyol, un aelod o staff addysgu llawn amser arall ac un cynorthwy-ydd. Arolygwyd yr ysgol yn 2019 ac yn dilyn cyfnod o fonitro gan ESTYN, nodwyd bod perfformiad yr ysgol wedi gwella a daethpwyd allan o'r cyfnod monitro yn 2021.

Mae Ysgol Gynradd Craig yr Wylfa wedi bod mewn partneriaeth anffurfiol gydag Ysgol Gynradd Tal y Bont lle rhennir yr un pennaeth, ers Mawrth 2011.

Mae gan y Pennaeth gyfrifoldeb addysgu am 0.5 diwrnod yn Ysgol Gynradd Craig yr Wylfa ac yn treulio cyfwerth â dau ddiwrnod yr wythnos ar safle'r ysgol. Mae hefyd ganddo gyfwerth â 1.5 diwrnod o gyfrifoldeb addysgu yn Ysgol Gynradd Tal y Bont. Gyda chyllidebau heriol yn wynebu y ddwy ysgol, o bosib bydd rhaid i oriau addysgu'r Pennaeth i gynyddu yn y dyfodol agos.

Mae'r ddwy ysgol eisoes yn cydweithio'n dda ar drawstoriad o feysydd, megis datblygu'r Cwricwlwm i Gymru (CiG), gwarantu ansawdd y dysgu ac addysgu, a rhannu arferion ac adnoddau. Dymunir penodi unigolyn ymroddedig ac arloesol i hyrwyddo'r safonau da presennol, ac adeiladu ymhellach ar fywyd, gwaith ac enwau da y ddwy ysgol gan sicrhau fod y ddwy ysgol yn parhau i ffynnu a manteisio ar gyfleoedd y dyfodol.

Y nod yw penodi unigolyn profiadol sy'n meddu ar nodweddion arwain a rheoli ardderchog a fydd yn:
  • Adeiladu ar y bartneriaeth iach sydd eisoes yn bodoli a chynnal perthynas gref â'r holl rhanddeiliaid;
  • Darparu arweiniad rhagorol sy'n tynnu ar ac yn atgyfnerthu arbenigedd staff eraill;
  • Hyrwyddo lles y dysgwyr a'r staff;
  • Annog a chefnogi pob dysgwr i wireddu pedwar diben Cwricwlwm i Gymru;
  • Hyrwyddo safonau, cynnydd a chyrhaeddiad uchel i bawb;
  • Arwain ar agendâu trawsnewid cenedlaethol;
  • Hyrwyddo datblygiad staff o ran addysgu a dysgu arloesol;
  • Annog ymglymiad rhieni/gofalwyr a chymuned y ddwy ysgol;
  • Hyrwyddo cynhwysiant yn llawn.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus yn meddu ar:
  • Weledigaeth glir ar gyfer datblygu'r bartneriaeth sy'n ysbrydoli staff, rhieni/gofalwyr a dysgwyr fel ei gilydd;
  • Disgwyliadau uchel ohonynt eu hunain ac eraill o fewn lleoliad y ddwy ysgol a chymunedau ehangach Tal y Bont a Borth;
  • Y gallu i ddarparu amgylchedd gofalgar, parchus a chynhwysol i bawb;
  • Dealltwriaeth ac ymrwymiad clir i ddatblygu arferion addysgeg effeithiol;
  • Sgiliau cyfathrebu, rhyng-bersonol, rheoli a threfnu cryf;
  • Dealltwriaeth o bwysigrwydd datblygiad unigol pob dysgwr er mwyn cyflawni eu llawn botensial;
  • Gwybodaeth gadarn o ddatblygiadau ac arferion addysg gyfredol a diddori ynddynt;
  • Ymrwymiad i sicrhau datblygiad proffesiynol parhaus ac gwaith tîm;
  • Ymrwymiad cryf i barhau'r cysylltiadau gyda'r Llywodraethwyr, y cymunedau a'r ysgolion lleol, Mudiad Meithrin, Urdd Gobaith Cymru ac Hwb Gymunedol Borth;
  • Y gallu i annog dysgwyr i gofleidio'r diwylliant a'r iaith Gymraeg yn llawn ac i annog rhieni/gofalwyr i gefnogi'r Gymraeg adref;
  • Profiad o ney ddiddordeb cryf mewn addysg awyr agored.

Mae'r hysbyseb hon ar gyfer swydd Pennaeth llawn amser lle mae'r gallu i gyfathrebu drwy gyfrwng y Gymraeg a'r Saesneg yn hanfodol. Mae meddu ar y cymhwyster CPCP yn hanfodol.

Mae croeso i ymgeiswyr sy'n dymuno ymweld â'r ddwy ysgol cyn gwneud cais, wneud hynny drwy gysylltu â Mrs Bethan Davies (Cadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Tal-y-Bont) ar 07929 285657 a Mrs Helen Williams (Is-Gadeirydd Corff Llywodraethol Ysgol Gynradd Craig yr Wylfa) ar 07896 616857 i drefnu ymweliad.

Disgrifiad Swydd a Manyleb Person

Am ragor o wybodaeth am y swydd hon, cysylltwch â Rhianydd James, Ymgynghorydd Cefnogi Ysgolion, ar 07811 593801 neu drwy e-bost rhianydd.james@ceredigion.gov.uk

Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw dydd Iau, Ebrill 10fed, 2025 a chynhelir cyfweliadau ar ddydd Mercher, Ebrill 30ain, 2025.

Noder: Cedwir yr hawl i newid y dyddiad cau.

Rydym wedi ymrwymo i ddiogelu ac amddiffyn plant ac oedolion sydd mewn perygl Fel rhan o'r ymrwymiad hwn, mae rhai rolau o fewn ein sefydliad yn gofyn am wiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) i asesu addasrwydd ymgeiswyr. Bydd y rôl hon yn gofyn am wiriad DBS Uwch.Sylwch na fydd presenoldeb euogfarnaublaenorol o reidrwydd yn anghymhwyso ymgeisydd rhag ystyriaeth ar gyfer y swydd hon. Rydym yn asesu pob ymgeisydd fesul achos, ac yn ystyried natur a pherthnasedd unrhyw euogfarnau mewn perthynas â chyfrifoldebau'r rôl. Ein nod yw creu amgylchedd gwaith cynhwysol a chefnogol lle caiff pob unigolyn ei drin yn deg a chyda pharch. Os oes gennych unrhyw bryderon neu gwestiynau am y broses hon, mae croeso i chi gysylltu â ni am eglurhad. Mae eich preifatrwydd a'ch urddas yn hollbwysig i ni drwy gydol y broses recriwtio.

Yr hyn a gynigwn

Cydbwysedd bywyd a gwaith

Cynllun cynilo ffordd o fyw

Cynllun pensiwn cyflogwr hael

Cynllun beicio i'r gwaith

Dysgu a datblygu

Lle byddwch yn gweithio

Gwasanaeth Ysgolion a Diwylliant
Rydym yn cynnig her a chefnogaeth briodol i'n hysgolion, i'w helpu i gyflwyno addysg o'r radd flaenaf i bob disgybl, ar draws yr ystod oedran a gallu. Mae ein prif swyddogaethau yn cynnwys:
  • Gwella Ysgolion: Arweinyddiaeth; Cefnogaeth a Her, Addysgu a Dysgu; Llythrennedd Digidol; Llythrennedd a Rhifedd; Cymraeg mewn Addysg
  • Anghenion Dysgu Ychwanegol: Darpariaeth ar gyfer disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, Cynhwysiant; Presenoldeb; Seicoleg Addysg
  • Lles Disgyblion: Cwnsela; Lles; Gwrth-fwlio, Llais Disgyblion
  • Llywodraethu Addysg: Data; Cefnogaeth Llywodraethwyr, Cefnogaeth polisi
  • Derbyniadau Ysgol
  • Diwylliant: Gwasanaeth Cerdd; Cered; Theatr Felinfach; Amgueddfa
  • Seilwaith ac Adnoddau: cynllunio lleoedd ysgol, moderneiddio a rhaglen ysgolion yr Unfed Ganrif ar Hugain, Adeiladau; Grantiau
  • Arlwyo: Canolfannau Dydd; Ysgolion cynradd; Cartrefi preswyl
  • Uned Gofal Plant: Asesiad Digonolrwydd Gofal Plant; Grant Gofal Plant a Chwarae; Cynnig Gofal Plant Cymorth busnes a hyfforddiant staff ar gyfer Darpariaeth Ôl Ysgol (Clybiau ar ôl Ysgol a Chlybiau Gwyliau); Meithrinfeydd Dydd, Cylchoedd Meithrin/Chwarae a Gwarchodwyr Plant
Aberystwyth Mae Aberystwyth yn dref brifysgol fywiog ac yn gyrchfan glan môr gyda phromenâd a phier. Yn ogystal dyma yw lleoliad y ddrama deledu atmosfferig Y Gwyll. Mae Aberystwyth yn lleoliad delfrydol i archwilio Llwybr Arfordir Cymru ar hyd Bae Cere...
Darllen mwy