MANYLION
  • Lleoliad: Rhondda Cynon Taf,
  • Oriau: Full time
  • Cytundeb: Parhaol
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Cyflog: £78,910 - £91,401 A19 – A25)
  • Iaith: Cymraeg

This job application date has now expired.

Pennaeth - Dolau Primary School

Rhondda Cynon Taf

Cyflog: Cyflog: £78,910 - £91,401 A19 – A25)

Pennaeth - Dolau Primary School

Disgrifiad Swydd
Ysgol Gynradd Dolau

PENNAETH

Cyflog £78,910 - £91,401 (A19 - A25)

Dyddiad Dechrau: Medi 2025

Nifer ar y Gofrestr: 511

Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Dolau yn awyddus i benodi Pennaeth ysbrydoledig a blaengar er mwyn helpu'r Corff Llywodraethu i symud yr ysgol yn ei blaen.

Rydyn ni'n falch o'r amgylchedd meithringar, croesawgar a chyfeillgar rydyn ni wedi'i greu, ac rydyn ni'n awyddus i sicrhau ymdeimlad o gymuned wrth i ni dyfu. Mae staff yr Ysgol yn dangos brwdfrydedd ac ymrwymiad drwy gydweithio'n dda, sy'n arwain at ganlyniadau da a phrofiad cadarnhaol a dymunol ar gyfer ein disgyblion.

Rydyn ni'n chwilio am Bennaeth sy'n:

  • Yn ymroddedig i ragoriaeth mewn addysg;
  • Sydd ag angerdd cryf dros yr iaith a'r diwylliant Cymraeg;
  • Meddwl strategol gyda gweledigaeth glir ar gyfer llwyddiant parhaus a fydd yn gweithio'n agos ac yn effeithiol gyda chorff llywodraethu'r ysgol;
  • Gweithiwr proffesiynol gyda sgiliau arwain, rheoli a rhyngbersonol profedig;
  • Arweinydd sy'n ysbrydoli, cymell a grymuso eraill;
  • Rhywun sydd â safonau a disgwyliadau uchel – sicrhau bod pob plentyn yn cael yr addysg orau;
  • Yn gyfathrebwr rhagorol a fydd yn ysbrydoli plant, rhieni a staff fel ei gilydd;
  • Wedi ymrwymo i ddatblygu ac adeiladu ymhellach ar bartneriaethau presennol gyda'n teuluoedd a'r gymuned ehangach a'r holl randdeiliaid allweddol;

Mae gyda ni:-
  • Athrawon a charfan cymorth hynod broffesiynol, dawnus, arloesol a hapus sy'n ymroi i gynnydd a dilyniant er mwyn parhau i ddatblygu'r ysgol
  • Corff llywodraethu ymroddgar a chefnogol, sy'n ymroi i weithio mewn partneriaeth i gyflawni'r gorau ar gyfer ein holl blant

Dyma gyfle cyffrous i’r person iawn fynd â’n hysgol i’r cam nesaf yn ei datblygiad.

Mae modd cael gafael ar ffurflenni cais a manylion pellach yn Chwilio am Swyddi (webitrent.com)

Os oes gyda chi unrhyw ymholiadau ynglŷn â'r broses ymgeisio, ffoniwch Caron Hughes (01443) 444551 neu e-bostio caron.hughes@rctcbc.gov.uk

Y dyddiad olaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw Hanner nos Iau 27 Mawrth

MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD.

Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.

Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.