MANYLION
  • Oriau: Full time
  • Math o gyflog: Annual
  • Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944
  • Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (CY)

Ymgeisiwch Nawr (EN)

Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.

Teacher of Girls PE - Haverfordwest High VC School

Cyngor Sir Benfro

Cyflog: Pay Scale Within: £32,433 - £49,944

Mae Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd am benodi athro sydd â'r gallu i addysgu'r cwricwlwm iechyd a llesiant newydd ar draws y cyfnodau allweddol. Byddai arbenigedd mewn pêl-rwyd ac athletau o fantais. Mae hon yn swydd barhaol, llawn amser i gychwyn ar 1 Medi 2025.

Bydd angen i'r ymgeisydd llwyddiannus feddu ar y gallu i gyflwyno gwersi damcaniaethol ac ymarferol arloesol ar y pwnc, a'r gallu i addysgu chwaraeon merched traddodiadol yn ogystal â chwaraeon amgen ac ABCh. Bydd y rôl hon yn gofyn i'r ymgeisydd llwyddiannus gamu y tu hwnt i'r gofyniad traddodiadol a gweithio dan arweiniad y Rheolwr Dysgu i gyflwyno arloesedd yn y cwricwlwm sy'n ysgogi ein plant a'n hoedolion ifanc i ddatblygu perthynas iach â bwyd ac ymarfer corff. Byddwch yn cael eich cefnogi i fod yn arloesol, yn greadigol ac i wneud y defnydd gorau o gyfleusterau gwych yr ysgol. Yn anad dim, rydym yn chwilio am chwaraewr tîm dilys sy'n gwerthfawrogi llwyddiant yr holl feysydd dysgu gymaint â'i feysydd ei hunan.

Bydd yr ymgeisydd llwyddiannus:
  • Yn ymarferydd ystafell ddosbarth rhagorol ac arloesol ag angerdd am addysgu iechyd a lles.
  • Yn meddu ar y weledigaeth, y dychymyg a'r ymrwymiad i ychwanegu at gryfder yr adran, i gyrraedd y safonau uchaf, ac i fod yn esiampl dda i'n myfyrwyr.
  • Yn datblygu strategaethau i ennyn diddordeb dysgwyr er mwyn gwella eu perfformiad ymhellach.
  • Yn dangos ymrwymiad cryf i welliant parhaus a chodi cyflawniad.
  • Yn meddu ar sgiliau trefnu, dadansoddi a chyfathrebu da.
  • Yn meddu ar frwdfrydedd, gwytnwch, penderfyniad a synnwyr digrifwch.
  • Yn meddu ar y gallu i ysgogi ac ysbrydoli cydweithwyr a dysgwyr.
  • Yn meddu ar ddisgwyliadau uchel o'i hunan, cydweithwyr a dysgwyr.
  • Yn meddu ar y gallu i ddatblygu cydberthnasau gweithio da â'r holl randdeiliaid.
  • Yn gallu defnyddio data mewn ffordd effeithiol iawn er mwyn cefnogi cynnydd ar draws yr adran.
  • Yn hollol ymrwymedig i weledigaeth ein hysgol.
Os ydych yn teimlo bod yr awydd, y penderfyniad a'r sgiliau gennych i ymuno â'n tîm, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych.

Rydym yn falch iawn o gyflawniadau ein disgyblion yn Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd ac rydym yn awyddus i rannu gwybodaeth i'ch helpu i wneud cais llwyddiannus. I gael rhagor o wybodaeth am yr ysgol gallwch ymweld â'n gwefan neu'n cyfrifon Facebook neu Twitter, neu mae croeso i chi gysylltu â ni os hoffech sgwrs anffurfiol am y swydd.

Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.

Gwiriadau Cyflogaeth

Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.

Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.

Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.

Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.

Diogelu

Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.

Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.

Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol

  • Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
  • Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
  • Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
  • Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.

Mae sgiliau Cymraeg yn hanfodol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.