MANYLION
Ymgeisiwch Nawr (CY)
- Oriau: Full time
- Math o gyflog: Annual
- Cyflog: Pay Scale Within: L37 £122,634 - L43 £140,685
- Iaith: Cymraeg
Ymgeisiwch Nawr (EN)
Byddwch yn cael eich cymryd i dudalen allanol i gwblhau eich cais.
Cyflog: Pay Scale Within: L37 £122,634 - L43 £140,685
Hysbyseb swydd: Pennaeth ysgol uwchraddLleoliad: Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd
Cyflog: [L37-L43] ynghyd â phecyn adleoli i'w benderfynu adeg cynnig y swydd.
Math o gontract: Amser llawn, parhaol
Dyddiad dechrau: Medi 2025
Ynglŷn â'r ysgol:
Mae hwn yn gyfle cyffrous i arweinydd dynamig â gweledigaeth ddod yn bennaeth newydd Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd. Mae Ysgol Uwchradd Hwlffordd yn ysgol uwchradd ddynamig a blaengar, gyda chweched dosbarth ffyniannus, sy'n ymroddedig i ddarparu addysg o'r radd flaenaf i fyfyrwyr 11 i 19 oed. Rydym yn ymfalchïo yn ein perfformiad academaidd, ein hethos cynhwysol, a'n hymrwymiad i ddatblygiad personol a chymdeithasol pob plentyn.
Yn dilyn uno dwy ysgol yn llwyddiannus a symud i adeilad newydd sbon ddwy flynedd yn ôl, rydym yn chwilio am bennaeth ysbrydoledig a gweledigaethol i arwain ein hysgol i'w chyfnod nesaf o dwf a llwyddiant. Mae gan ein hysgol ymdeimlad cryf o gymuned, gofal bugeiliol rhagorol ac ymrwymiad i ddyheadau uchel ar gyfer pob disgybl.
Y rôl:
Fel pennaeth, byddwch yn gyfrifol am arwain cyfeiriad strategol yr ysgol, gan sicrhau'r safonau uchaf o addysgu, dysgu a gofal bugeiliol. Byddwch yn gweithio'n agos gydag uwch-gydweithwyr, staff, myfyrwyr, rhieni a llywodraethwyr i lunio diwylliant a gwerthoedd yr ysgol, gan feithrin amgylchedd cadarnhaol a chynhwysol lle mae myfyrwyr yn anelu at gyflawni safonau uchel. Bydd eich arweinyddiaeth yn ganolog i barhau i hyrwyddo ein gweledigaeth ac ysgogi gwelliant ar draws pob agwedd o fywyd ysgol. Bydd gennych hanes profedig o arwain yn llwyddiannus, gan feddu ar y weledigaeth a'r gallu i arwain ysgol uwchradd fawr. Byddwch yn gyfathrebwr effeithiol, gan ysbrydoli ac uno staff, disgyblion, rhieni, llywodraethwyr a rhanddeiliaid eraill.
Prif gyfrifoldebau:
- Arwain ac ysbrydoli staff i ddarparu addysg o ansawdd uchel â disgwyliadau uchelgeisiol, a chreu amgylchedd dysgu cadarnhaol, cefnogol i bob disgybl.
- Datblygu a gweithredu gweledigaeth strategol yr ysgol, gan sicrhau aliniad â gwerthoedd a blaenoriaethau'r ysgol.
- Goruchwylio cynnydd a chanlyniadau academaidd, gan sicrhau bod pob myfyriwr yn cyflawni ei botensial llawn.
- Arwain ar ddiogelu, lles, a llesiant myfyrwyr, gan sicrhau amgylchedd diogel, parchus a chefnogol i bawb.
- Gweithio ar y cyd â llywodraethwyr, staff, disgyblion, rhieni, a'r gymuned ehangach i werthuso cynnydd yn effeithiol a mynd i'r afael yn llwyddiannus ag unrhyw feysydd allweddol y mae angen eu gwella.
- Sicrhau rheolaeth effeithiol o adnoddau'r ysgol, gan gynnwys staffio, y gyllideb a chyfleusterau.
- Hyrwyddo datblygiad proffesiynol yr holl staff, gan annog gwelliant ac arloesedd parhaus mewn addysgu a dysgu.
Yr ymgeisydd delfrydol:
Rydym yn chwilio am bennaeth sydd:
- Yn meddu ar hanes profedig o arweinyddiaeth lwyddiannus mewn addysg uwchradd.
- Yn angerddol am ddarparu addysg ragorol i bob myfyriwr.
- Yn meddu ar weledigaeth glir ar gyfer dyfodol addysg ac wedi ymrwymo i welliant parhaus yr ysgol.
- Yn dangos sgiliau rhyngbersonol cryf ac yn gallu meithrin perthnasoedd effeithiol â staff, myfyrwyr, rhieni, a'r gymuned.
- Yn meddu ar sgiliau cyfathrebu, penderfynu a chynllunio strategol rhagorol.
- Yn eiriolwr cryf dros amrywiaeth, cynhwysiant a chydraddoldeb.
- Yn meddu ar statws athro cymwysedig, Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth, a phrofiad helaeth mewn uwch arweinyddiaeth.
Yr hyn yr ydym yn ei gynnig:
- Tîm staff cefnogol a brwdfrydig.
- Ysgol flaengar sydd ag adnoddau da gyda chysylltiadau cryf â'r gymuned.
- Cyfleoedd ar gyfer datblygiad proffesiynol a chamu ymlaen yn eich gyrfa.
- Tîm arwain sydd wedi ymrwymo i greu amgylchedd lle mae staff a myfyrwyr yn ffynnu.
- Pecyn cyflog cystadleuol a phecyn adleoli.
Sut i wneud cais:
Os ydych yn arweinydd uchelgeisiol ac ysbrydoledig gydag angerdd am addysg a datblygiad pobl ifanc, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych. Cwblhewch ffurflen gais (gan gynnwys datganiadau personol dim mwy na thair ochr A4) yn amlinellu eich gweledigaeth ar gyfer Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd a'ch addasrwydd ar gyfer y rôl.
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 31 Mawrth 2025, am 12pm hanner dydd. Cynhelir cyfweliadau rhwng 8 Ebrill a 10 Ebrill.
Atodlen
8 Ebrill - cyrraedd erbyn 1.15pm i fynd am dro o amgylch yr ysgol rhwng 1.30pm a 3pm. Dilynir hyn gan egwyl fer, ac yna cyflwyniad llafar byr i staff. Bydd cyfle i gwrdd yn anffurfiol â staff yn dilyn y cyflwyniadau, a darperir lluniaeth ysgafn.
9 Ebrill - cyrraedd erbyn 8.15am ar gyfer cyfres o gyfweliadau fel a ganlyn: paneli arweinyddiaeth a rheoli, addysgu a dysgu, diogelu, llesiant a bugeiliol, disgyblion a staff. Bydd hefyd gweithgaredd arsylwi gwers, a thasg ysgrifenedig yn gysylltiedig â chyllideb yr ysgol.
10 Ebrill - ar gyfer yr ymgeiswyr hynny sy'n cyrraedd y cam nesaf, gofynnir iddynt baratoi cyflwyniad, a'i gyflwyno, ac yna cynhelir cyfweliad â nhw.
Ysgol Uwchradd Wirfoddol a Reolir Hwlffordd - Fideo Recriwtio
Fideo Addysgu Sir Benfro: Fideo - Cyngor Sir Penfro
Cyfeiriwch at y disgrifiad swydd uchod am ragor o fanylion am y swydd wag hon a manyleb y person.
Gwiriadau Cyflogaeth
Mae'r swydd hon yn ddarostyngedig i wiriad datgelu gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd.
Caiff yr wybodaeth bersonol rydym wedi'i chasglu gennych ei rhannu â Cifas pan fydd yn briodol ar gyfer eich rôl a'ch cyfrifoldeb, a bydd Cifas yn ei defnyddio i atal twyll, ymddygiad anghyfreithlon neu anonest arall, camymddwyn, ac ymddygiad arall sy'n ddifrifol amhriodol. Os caiff unrhyw un o'r rhain eu canfod, gellir gwrthod darparu rhai gwasanaethau neu gyflogaeth i chi. Bydd eich gwybodaeth bersonol hefyd yn cael ei defnyddio i wirio pwy ydych chi. Gallwch weld rhagor o fanylion am sut y caiff eich gwybodaeth ei defnyddio gennym ni a Cifas, a'ch hawliau diogelu data, yma: https://www.cifas.org.uk/fpn.
Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y Deyrnas Unedig cyn gwneud cais am swydd wag.
Sylwch nad yw Cyngor Sir Penfro ar hyn o bryd yn derbyn ymgeiswyr sydd angen fisa Gweithiwr Medrus fel rhagofyniad i hawl i weithio yn y DU. Dylai ymgeiswyr sicrhau bod ganddynt yr hawl i weithio yn y DU cyn gwneud cais am swydd wag.
Diogelu
Mae diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn flaenoriaeth uchel i Gyngor Sir Penfro. Ein nod yw cefnogi plant sy'n agored i niwed ac oedolion mewn perygl er mwyn sicrhau eu bod mor ddiogel â phosibl. Rydym yn ymrwymedig i sicrhau eu diogelwch a byddwn yn gweithredu i ddiogelu eu llesiant. Mae Polisi Diogelu Corfforaethol y Cyngor yn darparu fframwaith i bob aelod o staff a gwasanaeth yn y Cyngor, gan amlinellu cyfrifoldebau mewn perthynas â diogelu ac amddiffyn plant ac oedolion mewn perygl yn ogystal â'r dulliau a ddefnyddir gan y Cyngor i sicrhau ei fod yn cyflawni ei ddyletswyddau.
Mae'r polisi hwn yn berthnasol i holl weithwyr a gweithlu'r Cyngor, yn ogystal â chynghorwyr, gwirfoddolwyr a darparwyr gwasanaethau a gomisiynir gan y Cyngor. Busnes pawb yw diogelu, p'un a ydynt yn gweithio i'r Cyngor neu'n gweithio ar ran y Cyngor.
Cymorth a Gwybodaeth Ychwanegol
- Cysylltwch â'r Tîm Systemau AD cyn gynted â phosibl os na allwch wneud cais ar-lein drwy anfon e-bost at hrsystemsteam@pembrokeshire.gov.uk .
- Cysylltwch â'r Tîm Recriwtio os oes gennych unrhyw ymholiadau yn ymwneud â'r swydd wag hon drwy anfon e-bost at recriwtio@sir-benfro.gov.uk
- Mae gweithwyr llywodraeth leol ar delerau'r Cyd-gyngor Cenedlaethol yn destun bargeinio cyflog cenedlaethol; mae'r holl gyflogau a nodir yn ein hysbysebion ar hyn o bryd ar sail cyflogau 1/4/2023.
- Sylwch, mae gennym rwymedigaeth gyfreithiol i ystyried gweithwyr ar gyfer cyflogaeth amgen addas os yw eu swyddi mewn perygl, felly rhoddir ystyriaeth ymlaen llaw i weithwyr presennol sy'n bodloni manyleb y person ac sydd wedi'u cofrestru ar ein cronfa adleoli.
Mae sgiliau Cymraeg yn ddymunol. Gellir cyflwyno ceisiadau yn Gymraeg ac ni chânt eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau a gyflwynir yn Saesneg.